Skip to content
Cyfrannwch

Ysgol yng Nghaerdydd sydd â ffocws arbennig ar bobl hŷn yn casglu £177 ar gyfer Age Cymru

Published on 13 Tachwedd 2023 03:31 yh

Gwnaeth ddisgyblion o Ysgol Gynradd Sant Joseph yng Nghaerdydd ymuno â her Cam Mawr Age Cymru dros yr haf.  Gwnaeth eu grŵp gweithredu Mini Vinnies gasglu £177.77.

Dros y misoedd diwethaf, mae disgyblion wedi bod yn meddwl am effeithiau’r pandemig ar eu perthnasau a’u cymdogion hŷn, felly gwnaethant benderfynu gefnogi pobl hŷn mewn cynifer o ffyrdd â phosib.

Gan ddilyn eu harwyddair ‘Troi Pryder yn Weithred’, gwnaeth grŵp gweithredu’r Mini Vinnies drefnu ymweliadau â chartrefi gofal lleol, lle gwnaethant ddiddanu preswylwyr gyda cherddoriaeth, a threfnu partneriaethau ffrind drwy’r post gyda nifer o bobl hŷn.  Gwnaethant hyd yn oed ymgeisio, ac ennill, cystadleuaeth a drefnwyd gan Sain Ffagan drwy ysgrifennu am y gorffennol fel rhan o Wythnos Weithredu Dementia.

Eu her ddiweddaraf oedd cymryd rhan yn ymgyrch godi arian Cam Mawr Age Cymru dros yr haf.  Roedd yn rhaid iddynt gerdded 10,000 cam bob dydd a chwilio am nawdd wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau am eu hymdrechion.

Yn 2022, gwnaeth yr elusen mwy na 10,000 o alwadau cyfeillgarwch i bobl hŷn unig, felly gwnaethant herio eu cefnogwyr i wneud yr un peth drwy gwblhau’r un nifer o gamau bob dydd am fis. 

Meddai athrawes yn Ysgol Sant Joseph, Kathryn Tuff, sy’n arwain y gwaith gyda phobl hŷn, “Mae’r plant wedi gwneud gwahaniaeth mawr.  Roedd y gefnogaeth wrth deuluoedd a ffrindiau yn rhagorol a dwi’n hynod o falch.  Maen nhw wedi dysgu am droi eu ‘pryder yn weithred’, helpu pobl eraill, a sut i gasglu arian ar gyfer achos da. 

Roedd un plentyn yn drwyadl wrth gyfri ei gamau, gan ddefnyddio ei Fitbit i wneud yn siŵr ei fod yn cwblhau’r 10,000 o gamau bob dydd.  Dywedodd, “Gwnes i fwynhau cymryd rhan yn Y Cam Mawr, roedd yn rhaid i mi wneud llawer o ymarfer corff!”  Gwnaeth un plentyn gasglu dros £90!  Meddai hi “Gwnaeth fy nheulu a’m ffrindiau fy noddi i oherwydd roedden nhw’n gwybod fod yr arian yn mynd at achos da sy’n hynod o bwysig iddyn nhw.  Ces i lawer o hwyl wrth gwblhau’r camau!”

Meddai Prif Weithredwraig Age Cymru, Victoria Lloyd, “Mae Grŵp Gweithredu Mini Vinnies wedi ein hysbrydoli ni i gyd; mae’r ffordd maen nhw wedi troi eu pryder yn weithred yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn.  Mae’r holl waith maen nhw wedi gwneud er mwyn deall yr heriau sy’n wynebu nifer o bobl hŷn yn adlewyrchiad arbennig ohonyn nhw a’u hysgol.”

I gael mwy o wybodaeth am sut gallwch chi gefnogi Age Cymru ewch i www.agecymru.org.uk/getinvolved neu ffoniwch 029 2043 1555.

 

Last updated: Tach 13 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top