Skip to content
Cyfrannwch

Ydych chi’n barod i weu? Mae her weu diodydd Innocent yn galw arnoch chi i gefnogi pobl hŷn yng Nghymru

Published on 08 Rhagfyr 2024 07:23 yh

Ymunwch â Phartneriaeth Age Cymru drwy fynd ati i weu.  Mae Partneriaeth Age Cymru a diodydd Innocent yn annog pobl i weu hetiau bach ar gyfer eu poteli er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen.

Bob blwyddyn, mae pobl ledled y wlad yn mynd ati i weu neu grosio fel rhan o’r her weu.  Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn flynyddol ers 2003.  Mae gan yr elusen amrywiaeth o batrymau yn cynnwys patrwm streipïog, uncorn bach pert a llawer mwy.  Defnyddiwch eich sgiliau creadigol a chreu eich patrwm eich hun.  Mae’r her yn gyfle gwych i gadw’n brysur yn ystod misoedd tywyll y gaeaf.

Ymunwch â’r her ac ewch ati i wneud gwahaniaeth go iawn.  Bydd pob het yn codi arian er mwyn sicrhau bod Partneriaeth Age Cymru yn medru parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru.

Ewch â’ch hetiau i swyddfa Age Cymru yn eich ardal chi, neu anfonwch nhw drwy’r post.  Rydyn ni angen eich hetiau erbyn 1 Gorffennaf 2025, felly mae gennych chi ddigonedd o amser i fod yn greadigol.

Mae amrywiaeth o batrymau ar wefan yr elusen, neu codwch y ffôn a gofynnwch am batrwm drwy’r post.  Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ewch i www.agecymru.org.uk/getinvolved, ffoniwch 029 2043 1534 neu e-bostiwch fundraising@agecymru.org.uk.

Diwedd 

 

Last updated: Rhag 08 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top