Sicrhau bod gofalwyr hŷn wrth wraidd cynlluniau gofal iechyd unigol
Published on 08 Rhagfyr 2024 07:46 yh
Mae Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cefnogi cyrff gwasanaethau iechyd ledled Cymru
Diwrnod Hawliau Gofalwyr – 21 Tachwedd 2024
Mae Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi ffurfio partneriaeth er mwyn cefnogi cyrff gwasanaethau iechyd ledled Cymru i adnabod a chefnogi gofalwyr hŷn, di-dâl er mwyn iddynt fod yn rhan o’r broses gynllunio gofal ar gyfer y bobl sy’n derbyn gofal.
Ariannwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru, a bydd yr elusennau yn hyfforddi staff gofal iechyd i ddeall rhai o’r heriau sy’n wynebu gofalwyr hŷn a darparu mewnwelediad am y rôl hanfodol gall ofalwyr gyflawni wrth gynllunio gofal.
Mae’r elusennau’n dweud bod tua 275,000 o ofalwyr hŷn, di-dâl yng Nghymru, sef mwy na hanner y swm cyfan. Mae’r bobl hyn yn darparu amser sylweddol er mwyn cyflawni amrywiaeth o gyfrifoldebau. Heb eu cyfraniad, maen nhw’n dweud na fyddai’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn medru ymdopi gyda’r galw.
Yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, mae’r elusennau wedi bod yn hyfforddi staff mewn meddygfeydd a’u helpu i adnabod gofalwyr hŷn yn gynt. Mae iechyd a llesiant gofalwyr di-dâl yn aml yn cael ei effeithio gan yr heriau sy’n gysylltiedig â gofalu, felly mae dod o hyd i gymorth yn gynt yn golygu eu bod nhw’n medru gofalu am eu hun yn well.
Mae’r elusennau hefyd wedi bod yn darparu sesiynau hyfforddiant i staff mewn ysbytai er mwyn eu helpu i ryddhau cleifion yn ddiogel, a sicrhau eu bod nhw’n cadw’n ddiogel ac yn iach gan leihau’r nifer o bobl sy’n gorfod dychwelyd i’r ysbyty mewn argyfwng. Mae hi’n amlwg bod gan ofalwyr rôl hanfodol yn y broses hon oherwydd mai nhw fydd yn debygol o ddarparu llawer o’r gofal tu allan i’r ysbyty, felly mae angen eu cynnwys yn sgyrsiau sy’n ymwneud â chynlluniau i ryddhau unigolyn o’r ysbyty.
Mae’r bartneriaeth hefyd yn gweithio gyda’r sector cartrefi gofal yng Nghymru er mwyn gwella profiadau pobl wrth iddynt symud i fyw mewn cartref gofal drwy greu pecynnau a chanllawiau hyfforddi. Mae’r elusennau’n credu bod gan ofalwyr rôl bwysig wrth gynnal lles yr unigolyn sy’n derbyn gofal, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw symud i fyw mewn cartref gofal.
Dywedodd arweinydd y prosiect, Chris Williams “Mae gofalwyr hŷn yn wynebu heriau ychwanegol sydd angen eu hystyried wrth gynllunio prosesau darparu gofal, ac efallai y byddan nhw hefyd yn elwa o gefnogaeth ychwanegol. Ond nid yw nifer o bobl yn gweld eu hun fel gofalwyr, yn hytrach maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n gwneud y peth iawn er mwyn helpu partner, ffrind agos neu berthynas.
“Ond os yw rôl y gofalwr yn cael ei gydnabod gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, bydd hynny’n helpu’r gofalwr i fynychu gwybodaeth bwysig, cyngor, hawliau ariannol, a mathau eraill o gefnogaeth fel seibiant sy’n eu galluogi nhw i gadw’n heini ac yn iach er mwyn iddynt fedru parhau i ddarparu gofal.”
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â carers@agecymru.org.uk neu ffoniwch Chris Williams o Age Cymru ar 02920 431 548, neu ewch i agecymru.wales/carers
Diwedd.