Skip to content
Cyfrannwch

Nid yw miloedd o aelwydydd sydd â mesuryddion rhagdalu traddodiadol wedi defnyddio eu talebau ynni

Published on 23 Chwefror 2023 09:45 yb

Yn ôl data gan PayPoint, nid yw un pumed o aelwydydd sydd â mesuryddion rhagdalu wedi defnyddio eu talebau ynni.  Mae’r cwmni’n amcangyfrif nad yw 760,000 o dalebau, gwerth tua £50 miliwn, a gyhoeddwyd rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2022 wedi cael eu defnyddio erbyn y dyddiad cau ar ddydd Sul 5 Chwefror 2023. 

Mae adroddiadau yn y wasg wedi awgrymu bod bron i ddwy filiwn o dalebau cefnogaeth ynni gwerth £125 miliwn wedi mynd ar goll, wedi eu hoedi, neu heb eu ceisio.  Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys ffigurau mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo rhoi £400 i bob cartref ym Mhrydain sydd â chyflenwad trydan.  Bydd yn gwneud hyn drwy’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni, gyda thaliadau yn cael eu gwneud dros gyfnod o chwe mis rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023.

I’r mwyafrif o aelwydydd, cafodd y swm hwn ei dynnu i ffwrdd wrth eu debyd uniongyrchol.  Ond mae angen i gwsmeriaid sydd â mesuryddion rhagdalu traddodiadol ddefnyddio eu talebau mewn swyddfa bost neu siopau PayPoint.

Yn hanfodol, mae’r Llywodraeth wedi dweud bydd cwsmeriaid yn medru cysylltu â’u cyflenwr ynni er mwyn iddynt ail-ddosbarthu taleb hyd yn oed os ydy’r dyddiad cau wedi pasio.  Bydd y daleb newydd yn ddilys am dri mis ar ôl y dyddiad cau.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi dweud os nad yw taleb yn cael ei ddefnyddio, mae’n rhaid i gyflenwyr ynni geisio cysylltu â’r cwsmer tair gwaith gan ddefnyddio mwy nag un dull.  Gall hyn gynnwys y post, e-bost a neges destun.

 Y dyddiadau cau nesaf

Mae PayPoint wedi dweud bod 79% o gwsmeriaid wedi defnyddio talebau mis Rhagfyr hyd yn hyn, cyn y dyddiad cau sef Mawrth 8 2023.

Mae angen i bobl ddefnyddio talebau mis Ionawr cyn Ebrill 9 2023.

Dywedodd Pennaeth Polisi Age Cymru Heather Ferguson “Rydw i’n annog unrhyw un sydd wedi methu’r dyddiad cau i gysylltu â’u cyflenwr ynni cyn gynted â phosib er mwyn cael taleb newydd.  Cyflwynwyd y cynllun er mwyn helpu pobl i ymdopi gyda rhai o’r biliau ynni drytaf maent erioed wedi eu hwynebu, felly mae’n bwysig cymryd mantais o’r gefnogaeth hyn.

“Mae nifer o gartrefi sydd â mesuryddion rhagdalu traddodiadol yn tueddi fod angen mwy o wres er mwyn cadw’n gynnes ac iach, felly mae’n hanfodol bod unrhyw gefnogaeth sydd ar gael yn eu cyrraedd yn hawdd”.

Diwedd

 

Last updated: Chw 23 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top