Mi fydd un o bob deg person hŷn yng Nghymru’n gwylio’r teledu ar eu pen eu hun dros y Nadolig eleni
Published on 16 Rhagfyr 2024 04:53 yh
Ni fydd un o bob pedwar yn addurno eu tai eleni
Mae Partneriaeth Age Cymru yn lansio’r ymgyrch codi arian Gyda’n gilydd does neb yn unig gyda gwaith ymchwil newydd
Mae gwaith ymchwil newydd gan Age Cymru yn dangos bydd tua 74,000 o bobl dros 65 oed a hŷn yng Nghymru, tua 1 o bob deg person hŷn yng Nghymru, yn treulio’r Nadolig ar eu pen eu hun yn gwylio’r teledu.
Mae’r gwaith ymchwil, a wnaeth helpu i lansio ymgyrch godi arian yr elusen dros y gaeaf, hefyd yn dangos na fydd mwy nag un o bob pedwar, tua 177,000 o bobl hŷn, yn addurno eu tai ar gyfer y Nadolig eleni.
Dywedodd bron 50,000 o bobl hŷn na fydden nhw’n gweld nac yn siarad â neb ar ddydd Nadolig, a dywedodd 40,000 o bobl hŷn yng Nghymru nad oedd ganddyn nhw neb i rannu anrhegion a chardiau dros y Nadolig.
Mewn cyferbyniad eglur, dywedodd mwy na hanner miliwn o bobl hŷn, mwy na thri chwarter o’r grŵp oedran, mai treulio amser gyda theulu a ffrindiau yw’r peth gorau am y Nadolig, gan ddangos bod nifer yn gwerthfawrogi cwmni petai ar gael.
Dywedodd 62% o bobl, mwy na 422,000 o bobl hŷn, eu bod yn gobeithio derbyn galwad wrth rywun ar ddydd Nadolig.
Mae’r elusen yn galw ar y cyhoedd yng Nghymru i gefnogi pobl hŷn sy’n wynebu Nadolig unig, drwy roi tuag at wasanaethau hanfodol sy’n cynnig cyfeillgarwch i bobl hŷn dros y Nadolig.
Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, “Mae’r Nadolig yn gyfnod i ni fwynhau bod gyda’n gilydd, ond yn anffodus mae pobl hŷn yn teimlo’n fwy ynysig dros y Nadolig nag unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. Rydyn ni eisiau newid hynny i gymaint o bobl hŷn â phosib.
“Dyna pam rydyn ni’n galw ar bawb i ddod at ei gilydd a chefnogi Partneriaeth Age Cymru, er mwyn i ni fedru rhoi cysur, cyfeillgarwch a llawenydd i bobl hŷn sydd angen ein help.
“I nifer o bobl hŷn yng Nghymru sy’n teimlo’n unig, yn angof, heb neb i’w helpu, mae Partneriaeth Age Cymru’n achubiaeth. Drwy ein gwasanaethau cyngor, rydyn ni’n darparu gwybodaeth a chefnogaeth er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd. Drwy ein gwasanaethau cyfeillgarwch rydyn ni’n cysylltu â phobl hŷn ac yn cynnig clust i wrando a llais cyfeillgar. Ond ni allwn wneud hyn heb eich help chi. Mae angen eich rhoddion ar Bartneriaeth Age Cymru er mwyn creu newid go iawn i bobl hŷn, unig yng Nghymru sy’n teimlo eu bod nhw’n cael eu hanghofio dros yr Ŵyl.”
I roi neu i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr ymgyrch ffoniwch 029 2043 1555, e-bostiwch enquiries@agecymru.org.uk, neu ewch i www.agecymru.cymru/dodynghyd
Diwedd.
Nodiadau i olygyddion
Cymerodd 2,755 o oedolion dros 65 oed o’r DU ran yn yr arolwg rhwng 2 a 29 Hydref 2024. Cafodd yr ymatebion eu pwysoli er mwyn cynrychioli poblogaeth y DU yn gywir. O’r bobl hynny, edrychom ar grŵp o 160 o unigolion dros 65 oed o Gymru. Mae ein hystadegau yn seiliedig ar y grŵp hwn heblaw y nodwyd yn wahanol. Mae targedau ar gyfer cwotâu a phwysolau yn dod o ddata Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac arolwg PAMCO, a hap-debygolrwydd arolwg F2F sy’n cael ei gynnal yn flynyddol gyda 35,000 o oedolion.
Mae Yonder yn un o aelodau sefydlol Cyngor Pleidleisio Prydain, ac yn cydymffurfio â'i reolau. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ewch i: http://www.britishpollingcouncil.org/”
Cyfrifwyd yr atebion er mwyn troi’r ffigurau’n ganrannau a’u rhoi yn erbyn ffigwr sylfaenol 682,000 o bobl dros 65 oed yng Nghymru. Ffynhonnell: https://www.gov.wales/mid-year-estimates-population-2023-html