Skip to content
Cyfrannwch

Mary Lloyd Jones yw enwebiad Age Cymru fel eu Ysgogwr Newid cyntaf

Published on 23 Gorffennaf 2024 10:54 yb

 

Mae Age Cymru yn dathlu pobl sy’n herio stereoteipiau fel rhan o raglen yr elusen sy’n dathlu creadigedd ymhlith pobl hŷn

Mae Age Cymru wedi enwebu Mary Lloyd Jones, yr arlunydd, gwneuthurwr printiau ac awdures fyd-enwog, fel eu Ysgogwr Newid cyntaf.  Mae’r anrhydedd yn dathlu pobl sydd wedi herio stereoteipiau ac arwain y ffordd yn eu meysydd creadigol gwahanol.

Ganwyd Mary ym 1934 a magwyd hi ym Mhontarfynach yn Aberystwyth.  Disgrifiwyd ei gwaith fel amlweddog, sy’n defnyddio adnoddau sy’n adlewyrchu dechreuon iaith, yn cynnwys marciau cynnar o waith dyn, yr ogham a choelbren y beirdd.

Meddai Mary fod ei gwaith yn cael ei ddylanwadu gan hen ddiwylliannau ac ieithoedd, gyda diddordeb arbennig yng nghyd-destun ei thirwedd ei hun.

Yn y gorffennol, mae hi wedi derbyn dwy gymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth, a doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, Caerdydd.

Enwebwch eich Ysgogwr Newid

Os ydych chi’n nabod person hŷn fel Mary sydd wedi herio stereoteipiau ac arwain y ffordd yn eu meysydd, enwebwch nhw i fod yn rhan o brosiect Ysgogwyr Newid Age Cymru.  Byddwn yn dathlu eich Ysgogwr Newid ynghyd â Mary mewn arddangosfa ar-lein, ac mae’n bosib bydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol a gyda’r Wasg. 

Ffoniwch Age Cymru ar y rhif 0300 303 44 98 neu e-bostiwch gwanwyn@agecymru.org.uk i ofyn am ffurflen enwebu. 

Diwedd

 

Last updated: Gor 23 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top