Skip to content
Cyfrannwch

Mae’r gwasanaeth eiriolaeth mewn argyfwng, yn ôl gwaith ymchwil elusen

Published on 08 Rhagfyr 2024 06:22 yh

Mae’r problemau sy’n wynebu pobl yn fwy heriol a chymhleth

Age Cymru’n rhybuddio am ddiffyg gwasanaethau eiriolaeth ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth 14 – 18 Hydref

Mae nifer yr eiriolwyr proffesiynol a gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru wedi lleihau, er bod y galw am wasanaethau o’r fath yn cynyddu ac mae’r problemau sy’n wynebu nifer o bobl yn mynd yn fwy cymhleth a heriol.  Dyna yw canfyddiad gwaith ymchwil newydd gan Age Cymru a gafodd ei lansio ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth.

Dros yr 18 mlynedd ddiwethaf, mae Age Cymru wedi bod yn adolygu cyflwr gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru, hynny yw, y gwasanaethau sy’n cefnogi pobl i wneud penderfyniadau gwybodus, cysylltu â gweithwyr proffesiynol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a deall eu hawliau yn well.

Cwblhawyd y gwaith ymchwil bob yn ail flwyddyn, ac mae’r canfyddiadau diweddaraf, a nodwyd ym Mhwysigrwydd Eiriolaeth 9, yn dangos bod cyfyngiadau ar y gwasanaeth ers 2022 wedi cael eu hachosi gan doriadau cyllidol.

Dangosodd y gwaith ymchwil fod rhestrau aros am wasanaethau er bod angen mwy o amser a chefnogaeth ar bobl, ac mae oriau gwaith eiriolwyr yn cael eu lleihau.

Mae’r effaith ar bobl sydd angen cefnogaeth yn sylweddol, ac yn golygu bod llai o bobl yn medru defnyddio’r gwasanaethau mewn termau real, er bod gan nifer o bobl broblemau ac anghenion mwy cymhleth. 

Mae amrywiaeth gynyddol, a heriau mwy cymhleth, yn cael eu hadlewyrchu yn arolwg blynyddol Age Cymru yn 2024, a gafodd ei gwblhau gan fwy na 1300 o bobl.  Dangosodd yr arolwg bod bron hanner y bobl hŷn yn teimlo bod costau byw yn her yn ystod y 12 mis diwethaf, a dywedodd mwy na hanner bod eu hiechyd corfforol yn broblem.  Mae’r heriau hyn yn gwaethygu oherwydd problemau eraill, fel diffyg trafnidiaeth, diffyg gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb a diffyg arian parod, galar, a chartrefi sydd angen gwaith atgyweirio.

Mae gwasanaethau cynghori ledled Cymru yn adrodd am broblemau amrywiol a chymhleth ymhlith y bobl hŷn sy’n troi atynt am gyngor.

Mae diffyg cyllid yn golygu bod y rhan fwyaf o wasanaethau eiriolaeth yn methu cynnig dyfarniad cyflog sy’n hafal i lefelau chwyddiant, ac mae cyflogau rhai yn agos at lefelau’r isafswm cyflog.  Mae hyn yn golygu nad yw staff yn aros yn y swyddi am gyfnod hir, ac mae yna broblemau recriwtio, oherwydd bod pobl yn medru cael gwell gyflog wrth weithio mewn archfarchnadoedd a chaffis.

Mae angen i eiriolwyr fedru ymdopi gydag achosion cymhleth, mae angen cymhwyster proffesiynol arnynt, gwybodaeth gyfreithiol a’r gallu i egluro materion cymhleth. 

Mae angen gweithredu er mwyn sicrhau bod eiriolaeth yn gynaliadwy ac yn wasanaeth sy’n ehangu, a’i fod ar gael i bawb sydd angen cefnogaeth.  Mae angen cymorth eiriolaeth ar bobl mewn argyfwng sy’n wynebu problemau cymhleth er mwyn sicrhau eu bod yn medru ymdopi.

Os hoffech chi mwy o wybodaeth am wasanaethau eiriolaeth Age Cymru, os oes angen help arnoch chi, neu os hoffech chi wirfoddoli gyda ni, cysylltwch â ni heddiw.

Ffoniwch 029 2043 1555, e-bostiwch advocacy@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/advocacy.

Diwedd

 

Last updated: Rhag 08 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top