Skip to content
Cyfrannwch

Mae Pugh’s Garden Villages yn cefnogi gwasanaeth Ffrind Mewn Angen Age Cymru yn ystod y Gaeaf

Published on 08 Rhagfyr 2024 06:09 yh

Digwyddiad Pugh’s Garden Villages yng Ngwenfô yn dathlu’r prosiect

Mae Age Cymru wedi ymuno â Pugh’s Garden Villages i godi arian ar gyfer gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn yr elusen, Ffrind Mewn Angen.  Bydd y canolfannau yng Nghaerdydd yn rhoi'r holl elw a wneir drwy werthu Arth Nadolig Pugh’s a'r llyfr 'Bear in the Window' tuag at y prosiect. Byddant hefyd yn gofyn am roddion ariannol gan gwsmeriaid sy'n defnyddio eu gwasanaeth torri coed Nadolig.

Ond yn bwysicach oll, bydd Pugh's hefyd yn gwahodd eu holl staff i ymuno â'r gwasanaeth Ffrind Mewn Angen.  Mae’r gwasanaeth yn sicrhau bod person hŷn sy'n byw ar ei ben ei hun yn cael galwad ffôn wythnosol, gan sicrhau nad ydyn nhw’n unig ac ynysig drwy’r wythnos. 

Er mwyn helpu i lansio'r bartneriaeth mae Pugh’s wedi gwahodd pobl hŷn, gyda chefnogaeth Age Cymru, i ymweld â'r canolfannau a mwynhau paned a mins pei am ddim.

Meddai Amy Sinclair o Pugh’s, "Rydyn ni wrth ein bodd bod Age Cymru yn mynd i weithio gyda ni i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol ymhlith pobl hŷn dros adeg y Nadolig eleni drwy ein hymgyrch “____________."

Fel rhan o'r ymgyrch, lansiodd Pugh's Arth newydd sbon ar gyfer 2024 a llyfr stori o'r enw The Bear in the Window.  Bydd elw o wneir drwy werthu’r ddau'n cael ei roi i wasanaeth cyfeillio dros y ffôn yr elusen, Ffrind Mewn Angen.

Meddai Amy: "Fel busnes teuluol sydd wedi croesawu cenedlaethau o gwsmeriaid i'n canolfannau dros y 70 mlynedd diwethaf, mae'r Gwasanaeth Ffrind Mewn Angen yn hynod o bwysig i ni oherwydd ei fod yn ddarpariaeth werthfawr i bobl hŷn yn ein cymunedau.  Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n helpu i godi arian ar gyfer y gwasanaeth hwn.

"Mae dewis Age Cymru fel ein Helusen Nadolig yn 2024 yn golygu y gall ein cwsmeriaid helpu'n uniongyrchol i ddarparu cyfeillgarwch a chefnogaeth i bobl hŷn unig drwy brynu ein Harth a'n llyfr.  Mae’n gyfle arbennig iawn."

Dyfyniadau o ddigwyddiad Gwenfô

Mae Keith Bradley yn byw ym Mro Morgannwg a chysylltodd â'r gwasanaeth Ffrind Mewn Angen pan gafodd ei fam ddiagnosis o ddementia ar ddechrau’r cyfnod clo. Dywedodd: "Roedd y galwadau ffôn wythnosol yn bwysig iawn i mam.  Byddai hi’n gwisgo’n daclus cyn pob galwad. Rhoddodd y galwadau gyfle iddi sgwrsio am y gorffennol, ac roedden nhw’n gyfle i mi gael seibiant o ofalu am fy mam."

Mae Chris Jones, sy'n wirfoddolwr, yn byw ger Penarth ym Mro Morgannwg. Wrth siarad yn nigwyddiad Gwenfô, dywedodd: "Mae'r gwasanaeth Ffrind Mewn Angen yn wasanaeth gwych i'r bobl hŷn hynny sydd yn unig, gan roi achubiaeth bwysig iddynt."

Lluniau o Ddathliad Gwenfô

 

 

Last updated: Rhag 08 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top