Skip to content
Cyfrannwch

Mae pobl hŷn sydd yn byw mewn cartrefi nad ydynt ar y grid yn cael eu hannog i wneud cais am gymorth o £400 erbyn 31 Mai

Published on 28 Mawrth 2023 02:59 yh

Mae’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni (Cyllid Amgen) yn cefnogi pobl sydd heb brif gyflenwr ynni

Mae Age Cymru yn annog pobl hŷn sy'n byw 'oddi ar y grid’ ac sydd ddim yn derbyn eu gwres gan gwmni ynni, i hawlio cymorth o £400 gan Gynllun Cymorth Biliau Ynni (Cyllid Amgen) Llywodraeth y DU cyn ddiwedd mis Mai.

Mae'r gefnogaeth wedi ei anelu'n benodol at bobl sydd heb fesurydd ynni domestig, neu sydd heb gontract â chyflenwyr ynni.

Fel arfer, gallai pobl sy'n gymwys i dderbyn y gefnogaeth hon fyw mewn eiddo heb gysylltiad â chyflenwad trydan neu nwy.  Mae’r rhain yn cynnwys cartrefi anghysbell, cartrefi mewn parciau neu gartrefi symudol, tŷ cwch, a safleoedd Sipsiwn a Theithwyr parhaol.

Mae'r cymorth ar gael hefyd i bobl sy'n talu ffioedd gofal i fyw mewn cartref gofal neu lety â chymorth, yn ogystal â'r rhai sy'n byw mewn llety rhent cymdeithasol neu breifat gyda chysylltiad ynni busnes neu gyflenwad trydan cymunedol.

I wneud cais ewch i www.gov.uk/apply-energy-bill-support-if-not-automatic <http://www.gov.uk/apply-energy-bill-support-if-not-automatic> neu ffoniwch 0808 175 3287.

Cymorth ychwanegol i bobl sy'n defnyddio glo neu olew i wresogi eu cartrefi

Mae pobl sy'n cynhesu eu cartrefi yn bennaf gyda nwy potel, glo, pren, neu gynhyrchion olew yn gymwys i hawlio £200 ychwanegol o Gronfa Taliad Tanwydd Amgen Llywodraeth y DU (AFP AF).

I wneud cais ewch i www.gov.uk/apply-alternative-fuel-bill-support-if-not-automatic neu ffoniwch 0808 175 3943. 

Mae Age Cymru wedi datblygu tudalen costau byw ar ei gwefan sy'n llawn gwybodaeth i helpu pobl hŷn i ymdopi â heriau ariannol presennol: www.agecymru.org.uk/cost-of-living.  

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu Saesneg, ffoniwch 0300 303 44 98 a chodir tâl ar gyfradd leol (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, Llun - Gwener). Neu e-bostiwch advice@agecymru.org.uk

 

 

Last updated: Maw 28 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top