Skip to content
Cyfrannwch

Mae newyddiadurwraig sydd wedi ymddeol yn annog pawb sydd â rhywfaint o amser sbâr i fynd ati i wirfoddoli

Published on 06 Chwefror 2024 12:12 yh

Meddai’r arweinydd teithiau cerdded bod gwirfoddoli’n gyffrous ac yn gwneud iddi deimlo ei bod hi’n cyflawni rhywbeth arbennig

Clare, mewn het goch, gyda’i grŵp cerdded

Mae’r gyn-newyddiadurwraig Clare Gabriel yn annog unrhyw un sydd ag ychydig o amser sbâr i ystyried gwirfoddoli oherwydd ei fod yn gyfle i chi, a’r bobl rydych chi’n eu cefnogi, i elwa.

Mae Clare yn gwirfoddoli fel arweinydd cerdded gydag Age Cymru.  Mae grwpiau cerdded yr elusen yn hyrwyddo ymarfer corff er mwyn gwella iechyd a lles pobl hŷn.

Mae’r grwpiau cerdded yn rhoi cyfle i bobl hŷn i gadw’n heini, mwynhau’r awyr agored, a chymdeithasu fel rhan o grŵp cyfeillgar a hwylus.

Mae’r grwpiau yn cael eu trefnu’n ofalus ar gyfer pob gallu, ac mae croeso i bawb.  Mae’r elfen gymdeithasol yr un mor bwysig, ac mae’r rhan fwyaf o deithiau yn gorffen o amgylch bwrdd gyda dishgled o de a sgwrs.

Mae arweinwyr y teithiau yn derbyn hyfforddiant gan dîm Gweithgareddau Corfforol Age Cymru, ac mae eich treuliau yn cael eu had-dalu.

Mae’r elusen yn dweud bod gwirfoddoli yn werth chweil mewn nifer o ffyrdd.  Mae gwirfoddolwyr yn dweud yn aml taw’r peth gorau am y grwpiau cerdded yw’r cyfeillgarwch, ffrindiau a theimlo eu bod yn cyflawni rhywbeth pwysig.  Mae hefyd yn rhoi cyfle i wirfoddolwyr fwynhau eu hardal leol a chadw’n heini.  

Meddai Clare “Rydw i’n arwain taith gerdded ar fore dydd Llun.  Mae’n rhywbeth cyffrous i edrych mlaen ato ar ddechrau’r wythnos.  Rydw i wedi gwneud ffrindiau am oes, ac rydyn ni hyd yn oed yn trefnu prydau bwyd fel grŵp o bryd i’w gilydd.

 “Rydw i’n cael ymdeimlad o foddhad wrth roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, rhywbeth fydd yn helpu pobl os ydyn nhw eisiau gwneud ychydig o ymarfer corff, bach o gwmni neu’r ddau beth hynny.  Rydw i wedi treulio blynyddoedd yn gweithio dan do felly mae’n deimlad gwych i fod tu allan yn yr awyr agored.”

Mae gan Age Cymru amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer pob math o alluoedd i wneud ymarfer corff, er enghraifft Ymarfer Corff Ysgafn, Cerdded Nordig, Cerdded a Sgwrsio a Tai Chi Qigong.  I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Gweithgareddau Corfforol Age Cymru, Tŷ’r Mariners, Caerdydd, CF24 5TD, ffoniwch 029 2043 1555, e-bostiwch physicalactivity@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/physical-activity.

Diwedd

 

Last updated: Chw 06 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top