Skip to content
Cyfrannwch

Mae gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb yn hanfodol i bobl hŷn fedru byw bywyd llawn ac annibynnol

Published on 30 Tachwedd 2023 08:12 yh

Mae 348 o ganghennau banc wedi cau ers 2015 yng Nghymru

Mae banciau yn cau yn gyson ledled Cymru, ac mae Age Cymru yn annog y diwydiant bancio i ystyried yr effeithiau dinistriol y gall polisi o'r fath eu cael ar lawer o bobl hŷn mewn llythyr agored at fanciau a gwleidyddion.

Yn ôl adroddiad gan Which?, mae 348 o ganghennau banc yng Nghymru wedi cau ers 2015 sy’n golygu mai dim ond 211 o ganghennau gweithredol sydd ar ôl.  Mae'r elusen yn tynnu sylw at y ffaith bod angen banc stryd fawr leol ar lawer o bobl hŷn i wneud trafodion ariannol hanfodol fel talu biliau'r cartref, a chael gafael ar arian parod er mwyn rhoi trefn ar gyllidebau eu cartrefi yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae rhai pobl hŷn wedi troi at ofyn i eraill ymgymryd â'u trafodion ariannol, gan effeithio ar breifatrwydd ac annibyniaeth.   I lawer, mae colli'r gallu i reoli eu materion ariannol eu hun yn gwneud iddynt deimlo'n ddiwerth a gallai hefyd adael rhai pobl hŷn yn agored i weithgarwch troseddol. Mae gallu ceisio cyngor wyneb yn wyneb mewn cangen hefyd yn helpu pobl hŷn i ddod yn fwy ymwybodol o sgamiau – pobl hŷn yw’r grŵp oedran sydd wedi'i dargedu fwyaf yn y DU.

Dywedodd adroddiad diweddar am Gynhwysiant Digidol yng Nghymru gan Archwilio Cymru, Mawrth 2023, fod bron i draean (32%) o'r rhai dros 75 oed yng Nghymru yn cael eu hystyried fel pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, sy'n golygu nad yw gwasanaethau bancio ar-lein yn ddewis priodol i lawer.

Ac mae cyfuno nifer o ganghennau lleol i fan canolog sy’n bell i ffwrdd hefyd yn peri problem i'r bobl hŷn hynny nad ydynt yn berchen ar gar ac sy'n dibynnu ar system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n lleihau.

Mae eithrio pobl hŷn o wasanaethau ariannol hefyd yn beth gwael i fusnesau oherwydd byddai llawer o bobl hŷn yn hoffi trafod cyfleoedd buddsoddi er mwyn eu helpu i adeiladu dyfodol ariannol mwy diogel.

Meddai prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, "Dylem ystyried gwasanaethau bancio fel gwasanaeth hanfodol fel dŵr a thrydan.  Dylai banciau ymgynghori â chymunedau lleol pan fyddant yn bwriadu cau cangen ac amlinellu'r dewisiadau amgen sydd ar gael.

"Rydym yn gwybod bod rhai banciau wedi trafod rhannu safleoedd er mwyn arbed costau mewn sawl tref yng Nghymru, ond mae'r cynnydd wedi bod yn boenus o araf.  Wrth i bobl chwilio am ddatrysiad i’r broblem, mae banciau yn parhau i gau ledled y wlad.  

"Rhaid i'r diwydiant bancio, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru gydweithio â chymunedau i ddod o hyd i atebion sy'n galluogi pobl hŷn i barhau i gael mynediad at ystod lawn o wasanaethau ariannol er mwyn iddynt fedru byw bywyd llawn ac annibynnol." 

 

I weld ein llythyr agored at fanciau a gwleidyddion, ewch i www.agecymru.org.uk/accesstobanking. Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch ffoniwch Rhian Morgan ar 07944 996943 neu e-bostiwch rhian.morgan@agecymru.org.uk.

 

Last updated: Tach 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top