Skip to content
Cyfrannwch

Mae gwaith atal ac ymyrryd ynghylch cwympiadau yn arbed miliynau o bunnoedd i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru bob blwyddyn

Published on 15 Medi 2024 11:00 yh

Mae gwaith atal ac ymyrryd ynghylch cwympiadau yn arbed miliynau o bunnoedd i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru bob blwyddyn 

Gyda'r gefnogaeth gywir gallai miloedd o bobl hŷn osgoi'r angen am gymorth gan y gwasanaethau gofal wedi iddynt gwympo 

Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Cwympiadau 16 – 20 Medi 2024

Woman stood on slope outside

Mae gwaith atal cwympiadau nid yn unig yn arbed miliynau o bunnoedd i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol bob blwyddyn ond mae hefyd yn arbed miloedd o bobl hŷn rhag angen defnyddio'r gwasanaethau gofal, yn ôl Tasglu Atal Cwympiadau Cenedlaethol Cymru cyn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Cwympiadau 16 – 20 Medi 2024. 

Mae'r Tasglu Cwympiadau'n gynghrair sy'n canolbwyntio ar atal cwympiadau ymhlith pobl hŷn yng Nghymru, gan gynnwys Age Cymru, Age Connects Wales, Gofal a Thrwsio Cymru, ac Ambiwlans Sant Ioan ynghyd â chynrychiolwyr o'r saith bwrdd iechyd, llywodraeth genedlaethol a lleol, sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector eraill. 

Ers 2018, mae Gwasanaeth Ymateb Cwympiadau Ambiwlans Sant Ioan Cymru, a ddarperir ar ran Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, wedi helpu mwy na 41,000 o bobl. Gan mai ychydig iawn o weithwyr gofal neu aelodau o'r teulu sy'n cael eu hyfforddi i gefnogi pobl ar ôl iddynt gwympo, fe wnaeth ymyriadau o'r fath osgoi'r angen am 23,900 o alwadau am ambiwlans. 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Gofal a Thrwsio Cymru a Phrifysgol Abertawe astudiaeth ar y cyd a wnaeth ymchwilio effaith addasiadau o amgylch y cartref ar dderbyniadau i'r ysbyty wedi i rywun gwympo. Canfu fod addasiadau'n lleihau'r tebygolrwydd bydd unigolyn yn gorfod mynd i'r ysbyty ar ôl gwympo o 17% ymhlith pobl dros oed. 

Yn seiliedig ar nifer yr addasiadau wnaeth Gofal a Thrwsio ddarparu'r llynedd, arbedodd y gwaith oddeutu £25,000,000 i GIG Cymru, a dros £850,000 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.  Roedd angen i lai o bobl gael eu derbyn i mewn i'r ysbyty, ac roedd llai o alwadau am ambiwlans. Roedd llawer o'r ymyriadau'n gymharol syml, er enghraifft sicrhau bod yna rheiliau llaw mewn lleoliadau addas o gwmpas y tŷ, sicrhau bod gan bobl well oleuadau, a bod ganddyn nhw rampiau dros risiau peryglus. 

Mae rhaglenni gweithgaredd Age Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi pobl hŷn i adeiladu cryfder, a gwella eu ffitrwydd a'u cydbwysedd craidd.

Mae hyn yn allweddol er mwyn lleihau'r perygl o gwympo.  Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy'n addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd a gallu, gan gynnwys gweithgareddau sy'n medru cael eu gwneud mewn cadair, Cerdded Nordig, cerdded er mwyn gwella iechyd a lles, a Tai Chi Qigong.  Mae'r sesiynau’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr; y llynedd cynhaliwyd 37,559 o sesiynau gweithgarwch corfforol ar gyfer pobl hŷn. 

Mae Partneriaeth Age Cymru ac Age Connects Cymru yn helpu pobl i aros yn ddiogel ar eu traed drwy ddarparu gwasanaethau hanfodol fel gofal traed a gwasanaeth torri ewinedd ledled Cymru. 

Yn ôl GIG Cymru mae pobl yn aml yn cael eu hanafu pan maen nhw'n cwympo. Yn ôl GIG Cymru, bydd tua un o bob tri oedolyn dros 65 oed a hanner y bobl dros 80 oed yn cwympo o leiaf unwaith y flwyddyn. 

Dywedodd Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Dawn Bowden:

“Rydw i’n cymeradwyo gwaith amhrisiadwy’r Tasglu Atal Cwympiadau Cenedlaethol, maen nhw’n helpu pobl i fyw yn ddiogel yn eu cartrefu gan leihau’r nifer o bobl sy’n gorfod mynd i’r Ysbyty a gan wneud arbedion sylweddol.  Mae’r arian hynny’n medru cael ei fuddsoddi yn y GIG er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bawb.

“Mae atal cwympiadau yn bwysig i bawb ohonom, ac rydw i’n bles bod nifer o raglenni Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r agenda hon, yn cynnwys Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, Y Gronfa Tai â Gofal a’r Rhaglen Byw’n Annibynnol sy’n darparu tua 45,000 o addasiadau mewn cartrefi ledled Cymru bob blwyddyn.

“Mae’r gwaith hyn yn sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas yn teimlo’n ddiogel, ac yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso.  Mae pobl yn cael cefnogaeth i fyw’n gyffyrddus ac mor annibynnol â phosib yn eu cymunedau lleol”.

Meddai Heather Ferguson, Cadeirydd y Tasglu o Age Cymru: "Mae'r ymyriadau hyn yn y gymuned yn helpu i atal cwympiadau a lleihau eu heffeithio.  Mae hyn oll yn gwneud cyfraniad hanfodol i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n werth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn yn ogystal ag arbed miloedd o bobl hŷn rhag gorfod troi at y gwasanaethau gofal. 

"Ond hyd yn oed yn bwysicach, maen nhw'n helpu miloedd o bobl hŷn i fod yn ddiogel ac yn iach, er mwyn iddynt gael y profiad gorau pobl o heneiddio. 

"Felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi'r cymorth a'r gwasanaethau ataliol hyn, gan gynnwys y trydydd sector.  Mae'n bwysig ein bod ni'n helpu i leihau'r pwysau sy'n wynebu ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol wrth iddynt wynebu heriau blynyddol y gaeaf." 

Er mwyn lleihau'r risg o gwympo, mae'r Tasglu yn lansio taflen fel rhan o Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Cwympiadau.  Bydd y daflen yn grymuso pobl hŷn a rhannu gwybodaeth am yr hyn a allai gynyddu eu risg o gwympo a sut i gymryd camau ataliol. 

Astudiaeth Achos / Storïwr - Gina Ayling, Llanfair-ym-Muallt

Cwympodd Gina wrth gerdded i fyny grisiau drws y cefn ei thŷ. Argymhellodd ei therapydd galwedigaethol ei bod yn gosod ramp a set o reiliau.  Byddai hynny'n ei galluogi i fynd i fyny drwy ddrws y cefn yn ddiogel ar gefn ei sgwter.  Gofal a Thrwsio Powys oedd yn gyfrifol am wneud yr addasiadau; tra'u bod nhw wrthi gwnaethon nhw hefyd helpu Ms Ayling i hawlio budd-daliadau ychwanegol yn dilyn adolygiad o'i sefyllfa ariannol. Gall bellach deithio'n ddiogel i'r dref leol a pharhau i fyw'n annibynnol yn ei chartref ei hun. 

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ffoniwch Age Cymru ar 029 2043 1555, e-bostiwch enquiries@agecymru.org.uk, neu ewch i www.agecymru.org.uk/falls

 

Last updated: Medi 17 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top