Skip to content
Cyfrannwch

Mae elusennau'n rhybuddio pobl hŷn yn erbyn inswleiddio eu llofftydd gydag ewyn inswleiddio

Published on 31 Ionawr 2024 03:33 yh

Adeiladwyr twyllodrus yn manteisio ar filiau ynni cynyddol

Mae Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau yn annog pobl hŷn a phobl sy’n agored i niwed i ofyn am gyngor cyn cytuno i inswleiddio eu llofftydd gydag ewyn inswleiddio, wrth i fasnachwyr twyllodrus dargedu a chamarwain pobl hŷn sy'n poeni am brisiau cynyddol eu biliau ynni.

Mae'r Bartneriaeth yn rhybuddio, er bod ewyn inswleiddio yn gyfreithlon, ei fod ond yn addas i’w ddefnyddio mewn amgylchiadau penodol a chyfyng, a dim ond arbenigwyr ddylai ei ddefnyddio. Ni ddylid byth ei farchnata fel ateb cyflym i broblemau sy’n ymwneud ag inswleiddio llofftydd oherwydd gall defnydd amhriodol achosi difrod strwythurol a'i gwneud hi'n anodd iawn gwerthu’r tŷ yn y dyfodol, gan fod benthycwyr morgeisi yn dod yn fwyfwy gofalus am ewyn inswleiddio.

Meddai swyddog polisi Age Cymru, Sam Young, pennaeth Cymru yn erbyn Sgamiau: "Rydym yn deall bod llawer o bobl hŷn yn poeni am sut maen nhw'n mynd i dalu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn ac o ganlyniad gallant fod hyd yn oed yn fwy agored i fasnachwyr twyllodrus.  

"Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos mai pobl hŷn yw'r grŵp oedran sydd mwyaf tebygol o gael eu targedu gan sgamwyr, gyda data gan Safonau Masnach Cenedlaethol yn dangos bod 85% o ddioddefwyr sgamiau ar garreg drws dros 65 oed.  

"Ym mhob sefyllfa, byddem yn annog pobl hŷn i ofyn am gyngor arbenigol yn gyntaf ac yna sicrhau eu bod yn mynnu eu holl hawliau.  

"Fodd bynnag, mae gwerth miliynau o bunnoedd o gymorth, gan gynnwys gwerth £200m o Gredyd Pensiwn, yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.    

"Mae Age Cymru yn cyhoeddi canllaw am ddim o'r enw Mwy o Arian yn Eich Poced sy'n cynnig gwybodaeth am ystod o fudd-daliadau a sut i fynd ati i'w hawlio." 

Mae Gofal a Thrwsio Cymru, sydd hefyd yn aelod o Gymru yn erbyn Sgamiau, yn darparu gwelliannau yn y cartref er mwyn eu gwneud yn fwy diogel.  Wrth weithio yn y gymuned, gwnaethant ddarganfod:

  • Bod un cleient wedi talu mwy na £4,000 i inswleiddio eu llofft gydag ewyn inswleiddio a werthwyd gan fasnachwr ar stepen y drws. Roedd y cleientiaid yn bobl hŷn gyda gwahanol broblemau iechyd; roeddent yn colli eu golwg a’u clyw a byddent wedi ymddangos yn agored i niwed i'r masnachwr twyllodrus.
  • Cafodd cleient hŷn arall ei berswadio i dalu blaendal o £2,000 am ewyn inswleiddio. Fe wnaeth deulu’r unigolyn atal y gwaith rhag mynd yn ei flaen.
  • Honnodd un masnachwr twyllodrus y byddai grant gan Lywodraeth y DU yn talu am y rhan fwyaf o'r gwaith, a dim ond £2,500 y byddai'n rhaid i'r cleient dalu.
  • Talodd cleient hŷn £3,500 i inswleiddio eu llofft gydag ewyn inswleiddio, cyn darganfod eu bod yn methu gwerthu’r tŷ o ganlyniad i’r gwaith. Bu’n rhaid iddynt dalu £2,000 i gael gwared ar yr ewyn cyn bod modd rhoi’r tŷ yn ôl ar y farchnad. Fodd bynnag, cafodd y tŷ ei dynnu oddi ar y farchnad am ddau fis ac yn y cyfamser gwnaeth gwerth y tŷ ostwng £15,000.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru: "Mae gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni yn bwysig ar gyfer eich iechyd, eich sefyllfa ariannol a'r hinsawdd. Fodd bynnag, byddem yn annog pobl i fod yn ofalus ac i wneud llawer o waith ymchwil cyn bwrw ymlaen â gwaith inswleiddio gan ddefnyddio ewyn inswleiddio.

"Mae gan rai awdurdodau lleol restrau masnachwyr dibynadwy, a dylai pob un ohonynt fedru cynghori ar ymholiadau sy’n ymwneud â thai ac iechyd yr amgylchedd.

"Bydd gan Safonau Masnach restrau o fasnachwyr cymeradwy fel rhan o’u gwasanaeth 'Prynu â Hyder' tra bydd canghennau Gofal a Thrwsio Lleol Cymru yn medru cynnig cyngor ar gontractwyr dibynadwy sy'n gweithio yn eu hardaloedd lleol."

Ychwanegodd Tony Neate, prif swyddog gweithredol Get Safe Online "Yn draddodiadol, rydych chi’n meddwl fod adeiladwyr twyllodrus yn ymddangos ar garreg eich drws, ond mae hefyd yn bwysig osgoi cael eich twyllo gan hysbysebion ar-lein.

"Cyn i chi gytuno i unrhyw beth, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud eich gwaith cartref. Gwiriwch fod gan yr adeiladwr enw da drwy edrych ar adolygiadau a sicrhau bod eich darparwr morgais yn cytuno ag unrhyw newidiadau rydych chi'n ystyried eu gwneud.

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol am fudd-daliadau a hawliau, ac unrhyw un o'r materion a nodwyd yn y datganiad newyddion hwn, ffoniwch Age Cymru ar 0300 303 44 98 (codir tâl lleol) o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm. Gallwch hefyd anfon neges e-bost at advice@agecymru.org.uk neu ymweld â www.agecymru.org.uk/cost-of-living. 

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Casglwyd yr ymchwil ar gyfer y datganiad newyddion hwn gan weithgor Cymru yn erbyn Sgamiau sy'n cynnwys cynrychiolwyr Age Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Get Safe Online, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol Tarian, a'r Comisiynydd Pobl Hŷn gyda chefnogaeth Safonau Masnach a Nyth.

Taliad Terfynol Cost Byw

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi y bydd y trydydd taliad costau byw o £299 yn cael ei dalu rhwng 6 Chwefror 2024 a 22 Chwefror 2024.

I fod yn gymwys ar gyfer y taliad hwn, rhaid eich bod wedi bod â hawl i fudd-dal cymwys, fel Credyd Pensiwn, rhwng 13 Tachwedd 2023 a 12 Rhagfyr 2023.

Oherwydd rheolau ôl-ddyddio Chredyd Pensiwn, lle gallwch ofyn am ôl-ddyddio hawliad am hyd at dri mis, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y trydydd Taliad Costau Byw, hyd yn oed os nad ydych yn cael Credyd Pensiwn eto.

 

Last updated: Ion 31 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top