Skip to content
Cyfrannwch

Mae Age Cymru’n rhybuddio gallai lleihau gwasanaethau bws gynyddu unigrwydd ac ynysigrwydd ymhlith pobl hŷn.

Published on 13 Tachwedd 2023 04:05 yh

Mae angen i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a gweithredwyr gwasanaethau bysiau gyd-weithio er mwyn datblygu gwasanaethau cynaliadwy.

Mae Age Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a gweithredwyr gwasanaethau bysiau i gyd-weithio er mwyn datblygu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

Mae adroddiadau gan y Conffederasiwn Trafnidiaeth Gyhoeddus y gallai Cymru fod ar fin colli hyd at chwarter ei gwasanaethau.  Mae’r elusen yn rhybuddio bod gwasanaethau bysiau’n achubiaeth ar gyfer miloedd o bobl hŷn.  Os ydy’r gwasanaethau’n cael eu torri i’r bôn, gall nifer o bobl fod yn wynebu bywydau unig ac ynysedig.

Mae angen gwasanaeth fysiau dibynadwy ar bobl hŷn er mwyn iddynt fedru cysylltu â gwasanaethau iechyd hanfodol, fel apwyntiadau ysbyty neu ymweld â’u meddyg teulu.  Mae nifer o bobl hefyd yn dibynnu ar eu gwasanaeth fysiau er mwyn prynu bwyd, mynychu arian parod, a thalu eu biliau.

Wrth gwrs, mae nifer o bobl hŷn yn defnyddio eu gwasanaeth fysiau lleol er mwyn cymdeithasu, yn arbennig gyda theulu a ffrindiau.  Mae’r gwasanaeth hefyd yn galluogi pobl hŷn i ymgysylltu gyda’u cymunedau a mynychu llefydd fel canolfannau dydd, clybiau cinio, ac addoldai.  Mae’r gweithgareddau hyn yn hanfodol er mwyn helpu pobl i ymladd yn erbyn unigrwydd ac ynysigrwydd, a chael gafael ar gyngor a gwybodaeth bwysig.

Nid yw perchenogaeth car yn opsiwn i nifer o bobl hŷn, a gall tacsis fod yn afresymol o ddrud.  Felly, ynghyd â thrafnidiaeth gymunedol, mae’r gwasanaeth fysiau’n achubiaeth hanfodol i nifer o bobl.

Meddai prif weithredwraig Age Cymru, Victoria Lloyd, “Mae effaith trafnidiaeth gyhoeddus wael ar fywydau pobl hŷn yn medru bod yn ddifrifol.  Mae’n cynyddu unigrwydd ac ynysigrwydd ac yn lleihau cyfleoedd i gymdeithasu ac ymuno â grwpiau a gweithgareddau.  Mae hyn yn arbennig o bwysig wedi Covid-19, pan wnaeth ynysigrwydd effeithio’n anghymesur ar bobl hŷn.

“Rydyn ni eisiau i weithredwyr gwasanaethau bysiau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyd-weithio er mwyn dod o hyd i ateb cynaliadwy er mwyn sicrhau bod pobl yn medru cynnal eu bywydau o ddydd i ddydd a theithio’n hawdd o gwmpas eu cymunedau.  Mae pobl hŷn yn cael eu heffeithio’n ddifrifol gan doriadau i wasanaethau bysiau cyhoeddus.  Mae angen ystyried eu hanghenion, a sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau.”

I gael gwybodaeth am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â phobl hŷn, ewch i’n gwefan www.agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555.

Dyfyniadau gan bobl hŷn

Dywedodd rhai pobl wrthym fod gwasanaethau yr oeddent gynt yn dibynnu arnynt wedi dod i ben, gan adael pobl yn ynysedig heb fynediad i’w cymunedau:

“Mae toriadau i’r gwasanaethau bysiau wedi digwydd ers i mi symud yma.  Roeddwn i’n gorfod cerdded am ddwy funud er mwyn dal bws oedd yn fy nghludo i’r dref mewn 12 munud.  Nawr mae’r gwasanaeth wedi diflannu’n gyfangwbl.  Mae cerdded yn anodd imi felly mae hynny’n cyfyngu ar fy ngallu i deithio’n sylweddol.”

Mae pobl eraill yn cael trafferth mynychu apwyntiadau iechyd hanfodol oherwydd diffyg bysiau cyhoeddus:

“Dydw i ddim yn gwybod sut i gyrraedd fy apwyntiadau yn yr ysbyty oherwydd dydw i ddim yn gyrru bellach, a dim ond dau fws sy’n teithio drwy’r pentref bob dydd.”

 

Last updated: Tach 13 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top