Mae Age Cymru’n annog pobl i gael eu brechu er mwyn cadw’n ddiogel dros y gaeaf
Published on 19 Tachwedd 2024 11:14 yb
Gall frechlynnau rhag y ffliw a’r feirws syncytiol anadlol, a brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 helpu i ddiogelu pobl hŷn yn ystod y gaeaf
Mae Age Cymru’n annog pobl hŷn ledled Cymru i gael brechiad rhag y ffliw a brechiad atgyfnerthu yn erbyn COVID-19 cyn gynted â phosib er mwyn paratoi ar gyfer y gaeaf. Yn ôl yr elusen, mae brechiadau sy’n diogelu pobl hŷn yr un mor bwysig â brechiadau sy’n diogelu babanod oherwydd bod brechiadau yn ein diogelu wrth i ni gael ein brechu’n rheolaidd, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae Age Cymru’n dweud bod brechiadau yn ffordd ddiogel ac effeithiol o ddiogelu pobl hŷn rhag afiechydon difrifol yn ystod y gaeaf, yn enwedig ymhlith pobl sy’n agored i gymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r ffliw.
Mae brechiadau yn eich diogelu tua pythefnos wedi i chi gael eich brechu. Hyd yn oed os cewch chi’r ffliw, mae’n debygol bydd y symptomau’n ysgafnach. Bydd brechiadau COVID-19 yn helpu i’ch diogelu rhag y prif fathau o feirysau COVID-19 sy’n lledaenu ar hyn o bryd.
Mae’r feirws syncytiol anadlol yn medru effeithio ar bobl drwy gydol y flwyddyn, ond fel nifer o feirysau, mae mwy o achosion yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Eto, gall bobl hŷn ddiogelu eu hun drwy gael eu brechu, ond ni fydd y brechiad yn cael ei gynnig gyda brechiadau rhag COVID-19 a’r ffliw.
Dywedodd Swyddog Mentrau Iechyd Age Cymru Angharad Phillips, “Bydd y brechiad rhag y feirws syncytial anadlol yn cael ei gynnig i bobl wedi iddynt droi’n 75 oed o hyn ymlaen. Bydd pobl dros 65 oed yn derbyn cynnig o frechiad rhag y ffliw, a brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yn ystod yr hydref eleni. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cael eich brechu pan fydd y cynnig yn dod wrth eich meddygfa lleol. Y cynharaf y byddwch yn cael eich brechu y cynharaf bydd gennych chi imiwnedd yn erbyn y feirysau cyffredin sy’n effeithio ar bobl.
Ond os ydych chi’n teimlo’n anhwylus neu mae gennych chi dwymyn, dywedwch wrth y gweithiwr iechyd cyn iddynt roi’r brechiad i chi. Ewch ati hefyd i geisio cyngor gan weithiwr iechyd am feirysau eraill sydd ar gael i bobl hŷn.”
Mae’r wybodaeth hyn ar gael fel rhan o ymgyrch Lles drwy Wres Age Cymru sy’n sôn am y ffyrdd gwahanol gallwch chi gadw’n gynnes, yn ddiogel ac yn iach yn ystod y gaeaf. Os hoffech chi gael mwy o fanylion, ffoniwch Angharad Phillips ar y rhif 029 2043 1555, e-bostiwch angharad.phillips@agecymru.org.uk, neu ewch i www.agecymru.org.uk/spreadthewarmth.
Diwedd