Skip to content
Cyfrannwch

Mae Age Cymru yn annog cyhoedd gogledd Cymru i roi blychau anrhegion Nadoligaidd i bobl hŷn unig

Published on 13 Tachwedd 2023 03:43 yh

Gallwch fynd â’ch bocsys i safleoedd yng Nghaernarfon, Dinbych, a'r Wyddgrug

Mae Partneriaeth Age Cymru yn annog y cyhoedd i roi blychau anrhegion Nadoligaidd i bobl hŷn unig ar draws y rhanbarth.

Mae'r elusen, ar y cyd gydag Age Connects Wales a Gofal a Thrwsio Cymru, yn gofyn i'r cyhoedd lenwi bocs esgidiau â phatrymau Nadoligaidd arno gydag anrhegion syml fel menig, hetiau, sgarffiau, llyfrau, melysion Nadoligaidd traddodiadol fel siocledi, mins peis, a chacennau. Byddai cerdyn Nadolig gyda neges gyfeillgar hefyd yn syniad da.

Ar ôl i chi lenwi'ch blwch esgidiau, a’i lapio â phapur Nadoligaidd, rhowch label arno yn nodi a yw'n addas ar gyfer menyw, gwryw neu ei fod yn flwch generig. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun a pheidiwch â chau eich blwch; rhowch fand rwber o amgylch y blwch caeedig. Yna ewch â’ch blwch i un o’r lleoliadau a nodwyd rhwng dydd Llun 27 Tachwedd a dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023.

Bydd yr holl flychau rhoddion yn mynd at bobl hŷn yn y rhanbarth sy'n derbyn gwasanaethau cymorth gan y bartneriaeth.  Efallai na fydd y person yn derbyn unrhyw anrhegion eraill adeg y Nadolig. 

Meddai prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, "Gall cyfnod yr ŵyl fod yn arbennig o anodd i bobl hŷn sy'n byw ar eu pennau eu hunain, yn enwedig y rhai sydd ag iechyd gwael neu sydd wedi profi profedigaeth yn ddiweddar.  Rydym yn gwybod na fydd llawer o bobl unig hŷn yn derbyn unrhyw anrhegion eraill dros gyfnod yr ŵyl.  Yn bwysicach fyth, bydd eich rhodd yn dangos iddynt eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn meddwl amdanynt."

Ewch a’ch blychau i:

Caernarfon: Age Cymru Gwynedd a Môn, Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UW. 

Dinbych: Age Connects Canolbarth Gogledd Cymru, Neuadd Gymunedol Eirianfa, Lôn Ffatri, Dinbych LL16 3TS. Dewch ar ddydd Llun rhwng 10am a 2pm.

Yr Wyddgrug: Age Cymru, Parc St Andrews, Lôn y Frenhines, Sir y Fflint, CH7 1XB 

I gael gwybodaeth ychwanegol am yr ymgyrch, ewch i www.agecymru.org.uk/giftboxappeal, e-bostiwch giftboxappeal@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555.

Mae Age Cymru yn annog cyhoedd de Cymru i roi blychau anrhegion Nadoligaidd i bobl hŷn unig

Gallwch fynd â’ch bocsys i safleoedd yn Aberdâr, Pen-y-Bont ar Ogwr, Y Tyllgoedd, Glynrhedynog, Y Sblot ac Abertawe

Mae Partneriaeth Age Cymru yn annog y cyhoedd yn Ne Cymru i roi blychau anrhegion Nadoligaidd i bobl hŷn unig ar draws y rhanbarth.

Mae'r elusen, ar y cyd gydag Age Connects Wales a Gofal a Thrwsio Cymru, yn gofyn i'r cyhoedd lenwi bocs esgidiau â phatrymau Nadoligaidd arno gydag anrhegion syml fel menig, hetiau, sgarffiau, llyfrau, melysion Nadoligaidd traddodiadol fel siocledi, mins peis, a chacennau. Byddai cerdyn Nadolig gyda neges gyfeillgar hefyd yn syniad da.

Ar ôl i chi lenwi'ch blwch esgidiau, a’i lapio â phapur Nadoligaidd, rhowch label arno yn nodi a yw'n addas ar gyfer menyw, gwryw neu ei fod yn flwch generig. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun a pheidiwch â chau eich blwch; rhowch fand rwber o amgylch y blwch caeedig. Yna ewch â’ch blwch i un o’r lleoliadau a nodwyd rhwng dydd Llun 27 Tachwedd a dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023.

Bydd yr holl flychau rhoddion yn mynd at bobl hŷn yn y rhanbarth sy'n derbyn gwasanaethau cymorth gan y bartneriaeth.  Efallai na fydd y person yn derbyn unrhyw anrhegion eraill adeg y Nadolig. 

Meddai prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, "Gall cyfnod yr ŵyl fod yn arbennig o anodd i bobl hŷn sy'n byw ar eu pennau eu hunain, yn enwedig y rhai sydd ag iechyd gwael neu sydd wedi profi profedigaeth yn ddiweddar.  Rydym yn gwybod na fydd llawer o bobl unig hŷn yn derbyn unrhyw anrhegion eraill dros gyfnod yr ŵyl.  Yn bwysicach fyth, bydd eich rhodd yn dangos iddynt eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn meddwl amdanynt."

Ewch a’ch blychau i:

Y Sblot: Age Cymru, Tŷ’r Mariners, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd, CF24 5TD. Ar agor rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 9am tan 4pm. 

Y Tyllgoed: Age Connects Caerdydd a’r Fro, Uned 10, Sbectrwm, Ffordd Bwlch, Y Tyllgoed, Caerdydd CF5 3EF. Rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 9am tan 5pm. 

Glynrhedynog: Gofal a Thrwsio Cwm Taf, 38-39 Stryd Duffryn, Glynrhedynog, Rhondda Cynon Taf, CF43 4ER 

Aberdâr: Age Connects Morgannwg, Cynon Linc, Stryd Seymour, Aberdâr CF44 7BD. Rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 9am tan 5pm. 

Pen-y-bont ar Ogwr: Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr, Llys Avon, Ffordd Y Bontfaen, Pen-y-bont ar Ogwr

CF31 3SR 

Abertawe: Gofal a Thrwsio Bae’r Gorllewin, Cyfadeilad Llys Tawe, Ystad Ddiwydianol Players, Clydach 

Abertawe, SA6 5BQ 

I gael gwybodaeth ychwanegol am yr ymgyrch, ewch i www.agecymru.org.uk/giftboxappeal, e-bostiwch giftboxappeal@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555.

Mae Age Cymru yn annog cyhoedd canolbarth Cymru i roi blychau anrhegion Nadoligaidd i bobl hŷn unig

Gallwch fynd â’ch bocsys i safleoedd yn Aberystwyth a Llandrindod 

Mae Partneriaeth Age Cymru yn annog y cyhoedd yng nghanolbarth Cymru i roi blychau anrhegion Nadoligaidd i bobl hŷn unig ar draws y rhanbarth.

Mae'r elusen, ar y cyd gydag Age Connects Wales a Gofal a Thrwsio Cymru, yn gofyn i'r cyhoedd lenwi bocs esgidiau â phatrymau Nadoligaidd arno gydag anrhegion syml fel menig, hetiau, sgarffiau, llyfrau, melysion Nadoligaidd traddodiadol fel siocledi, mins peis, a chacennau. Byddai cerdyn Nadolig gyda neges gyfeillgar hefyd yn syniad da.

Ar ôl i chi lenwi'ch blwch esgidiau, a’i lapio â phapur Nadoligaidd, rhowch label arno yn nodi a yw'n addas ar gyfer menyw, gwryw neu ei fod yn flwch generig. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun a pheidiwch â chau eich blwch; rhowch fand rwber o amgylch y blwch caeedig. Yna ewch â’ch blwch i un o’r lleoliadau a nodwyd rhwng dydd Llun 27 Tachwedd a dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023.

Bydd yr holl flychau rhoddion yn mynd at bobl hŷn yn y rhanbarth sy'n derbyn gwasanaethau cymorth gan y bartneriaeth.  Efallai na fydd y person yn derbyn unrhyw anrhegion eraill adeg y Nadolig. 

Meddai prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, "Gall cyfnod yr ŵyl fod yn arbennig o anodd i bobl hŷn sy'n byw ar eu pennau eu hunain, yn enwedig y rhai sydd ag iechyd gwael neu sydd wedi profi profedigaeth yn ddiweddar.  Rydym yn gwybod na fydd llawer o bobl unig hŷn yn derbyn unrhyw anrhegion eraill dros gyfnod yr ŵyl.  Yn bwysicach fyth, bydd eich rhodd yn dangos iddynt eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn meddwl amdanynt."

Ewch a’ch blychau i:

Aberystwyth: Age Cymru Dyfed, 27 Pier Street, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2LN 

Llandrindod: Age Cymru Powys, Marlow South Crescent, Llandrindod, LD1 5DH 

I gael gwybodaeth ychwanegol am yr ymgyrch, ewch i www.agecymru.org.uk/giftboxappeal, e-bostiwch giftboxappeal@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555.

 

Last updated: Tach 13 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top