Skip to content
Cyfrannwch

Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar iechyd meddwl a llesiant, a strategaethau atal hunanladdiad

Published on 02 Gorffennaf 2024 09:50 yb

Nid yw'r lefelau presennol o fuddsoddi mewn iechyd meddwl a lles pobl hŷn yng Nghymru yn diwallu anghenion meddai Age Cymru yn ei ymateb i Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-2034, ac ymgynghoriadau Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Drafft 2024-2034.

Mae'r elusen yn galw am ffocws cliriach ar iechyd meddwl pobl hŷn sy’n cael gynnal gan gyllid digonol a chynaliadwy nid yn unig ar gyfer cymorth iechyd meddwl statudol a thrydydd sector penodol ond hefyd ar gyfer gwasanaethau sy'n sail i ansawdd bywyd da, fel argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus, mynediad at ofal cymdeithasol, a chymorth i ofalwyr hŷn.

Meddai pennaeth polisi Age Cymru, Heather Ferguson "Mae angen i ni ddeall pam nad yw pobl hŷn yn cael gafael ar yr help sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt.

"Rydym yn croesawu'r ffaith fod pobl hŷn yn cael eu cydnabod fel grŵp sydd angen cymorth penodol i ddiogelu eu hiechyd meddwl a'u lles yn yr ymgynghoriadau hyn a gobeithiwn y bydd hyn yn pwysleisio anghenion iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru.

"Mae cymorth iechyd meddwl oedolion hŷn wedi cael ei anwybyddu ers blynyddoedd lawer, ac rydym yn gwybod y gall pobl hŷn wynebu sawl rhwystr rhag cael y cymorth y gallai fod ei angen arnynt.

"Wrth i ni heneiddio mae ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl gwael yn cynyddu. Er enghraifft, po hiraf y mae pobl yn byw po fwyaf tebygol ydynt o golli teulu a ffrindiau, dod yn fwy ynysig yn gymdeithasol ac unig, cael eu targedu gan gamdrinwyr a thwyllwyr troseddol, ac ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu anodd."

Mae'r elusen hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r broses o fynd i’r afael ag agweddau sy’n arwain at wahaniaethu ar sail oedran yn y sector iechyd meddwl, agweddau sy'n tybio bod iechyd meddwl gwael yn rhan naturiol o heneiddio. Gall y stereoteipiau hyn arwain at ddiffyg ffocws o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl i bobl hŷn; gall yr agweddau hyn hefyd atal pobl rhag gofyn am gymorth pan fydd ei angen arnynt.

Ffeithiau allweddol

  • Mae 22% o ddynion a 28% o fenywod dros 65 oed yn byw gydag iselder
  • Mae 30% o ofalwyr hŷn yn profi iselder ar ryw adeg o’u bywyd
  • Mae pobl hŷn sy'n profi profedigaeth bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu iselder
  • Canfu arolwg cenedlaethol Age Cymru yn 2024 fod pobl hŷn â heriau corfforol a symudedd 70% yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl gwael
  • Mae 40% o bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yn byw gydag iselder.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am wasanaethau a allai gefnogi llesiant meddyliol oedolion hŷn, ffoniwch Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, e-bostiwch advice@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/advice.  

Gallwch hefyd archebu copi o Your Mind Matters wrth Gyngor Age Cymru neu lawrlwythwch y ddogfen o: https://bit.ly/ACYourMindMatters

 

Last updated: Gor 02 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top