Skip to content
Cyfrannwch

Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio'ch holl hawliau

Published on 30 Tachwedd 2023 08:16 yh

Gwerth £200m o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn

Wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf, mae Age Cymru yn annog pobl hŷn yng Nghymru i wneud y mwyaf o'u hincwm drwy hawlio eu holl fudd-daliadau a hawliau.  

Y llynedd fe wnaeth Partneriaeth Age Cymru helpu pobl hŷn ledled y wlad i hawlio dros £7.5m, ond mae am wneud cymaint mwy.

Yn anffodus, mae gwerth miliynau o bunnoedd o gymorth, gan gynnwys gwerth £200m o Gredyd Pensiwn, yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.

Dywedodd Gavin Thomas, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau, "Mae'n gymaint o drueni bod cymaint o bobl hŷn yn colli’r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.  Mae hwn yn arian y gallent ei ddefnyddio i helpu i dalu am eu biliau bwyd a thanwydd. 

"Rydyn ni'n clywed gan bobl sydd wedi rhoi'r gorau i hawlio oherwydd bod eu ceisiadau wedi cael eu gwrthod yn y gorffennol, ond byddem yn eu hannog i roi cynnig arall arni oherwydd gallai eu hamgylchiadau fod wedi newid.  

"Mae pobl hŷn wedi cyfrannu at y system les am y rhan fwyaf o'u bywydau gwaith, felly mae ganddyn nhw berffaith hawl i ofyn am y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw."

Mae'r elusen yn cyhoeddi canllaw o'r enw Mwy o Arian yn eich Poced sy'n cynnig gwybodaeth am ystod o fudd-daliadau a sut i fynd ati i'w hawlio. Mae'r ystod lawn o ganllawiau arian ar gael yn rhad ac am ddim gan Gyngor Age Cymru.

Os ydych am siarad â rhywun yn uniongyrchol am fudd-daliadau a hawliadau, fel y gallwch sicrhau nad ydych yn un o'r rhai sydd ar eu colled, ffoniwch yr elusen ar 0300 303 44 98 (codir tâl lleol) o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm. Gallwch hefyd anfon neges e-bost advice@agecymru.org.uk neu ymweld â www.agecymru.org.uk/advice.

Nodiadau i Olygyddion

Budd-daliadau a hawliau hanfodol

Help gyda chostau gwresogi

Mae'n hanfodol bwysig eich bod yn cadw'ch hun a'ch cartref yn gynnes yn ystod y gaeaf ac mae sawl menter ar gael i'ch helpu i dalu eich biliau tanwydd a chadw'ch cartref yn effeithlon o ran ynni. Mae Age Cymru wedi datblygu taflen ffeithiau am ddim o'r enw Help gyda Chostau Gwresogi yng Nghymru sy'n esbonio'r holl fentrau amrywiol sydd ar gael i gefnogi pobl hŷn yn ystod y gaeaf gan gynnwys Taliadau Tanwydd y Gaeaf, Taliadau Costau Byw, a'r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.

Credyd Pensiwn yw un o'r budd-daliadau allweddol a all ychwanegu arian at eich incwm wythnosol; mae yna isafswm gwarantedig o £201.05 os ydych yn sengl a £306.85 os ydych yn gwpl. Hyd yn oed os oes gennych rywfaint o gynilion, gallech gael £15.94 ychwanegol yr wythnos os ydych yn sengl neu £17.84 os ydych yn gwpl.

Gallai Credyd Pensiwn hefyd eich helpu i gael rhai hawliau eraill fel eithriad rhag Treth y Cyngor, triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG, help gyda chost sbectol, a thaliad tywydd oer o £25 pan fydd y tymheredd yn 0°C neu'n is am 7 diwrnod yn olynol.  Os ydych dros 75 oed, bydd Credyd Pensiwn yn eich galluogi i hawlio trwydded deledu am ddim.

Mae Lwfans Gweini yn fudd-dal ar gyfer pobl hŷn 66 oed neu hŷn a allai fod angen help ychwanegol i aros yn annibynnol gartref, oherwydd salwch neu anabledd. Mae'n werth £68.10 yr wythnos os oes angen help arnoch naill ai yn ystod y dydd neu gyda'r nos neu £101.75 yr wythnos os oes angen help arnoch yn ystod y dydd a'r nos.

 

Last updated: Tach 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top