Skip to content
Cyfrannwch

Elusennau pobl hŷn yn cynnal digwyddiad Lles y Gwanwyn yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd

Published on 03 Ebrill 2024 01:18 yh

Dydd Llun 4 Mawrth 2024 – 1pm i 3.30pm

Grŵp o hen ddynion yn eistedd o amgylch bwrdd

Disgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig

Bydd Age Cymru Gwent, ynghyd â'i phartner prosiect Age Cymru, yn cynnal digwyddiad Llesiant y Gwanwyn gan dîm HOPE ar ddydd Llun 4 Mawrth 2024 rhwng 1pm a 3.30pm yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

Mae HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) yn brosiect partneriaeth sy'n darparu eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn (50+) a'u gofalwyr ledled Cymru.  

Bydd y digwyddiad yn darparu gwybodaeth a chymorth i helpu pobl sy'n 50 oed neu'n hŷn, a'u gofalwyr, i gadw'n iach yn ystod y gwanwyn eleni. 

Bydd gwybodaeth am amrywiaeth o faterion gan gynnwys eiriolaeth, hawlio budd-daliadau, tai, diogelwch cymunedol, gwirfoddoli, a sut i leihau eich biliau ynni. 

Bydd mwy nag 20 o sefydliadau yn mynychu gan gynnwys Gofal a Thrwsio Casnewydd, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Heddlu Gwent, a Chymru Gynnes.

Ac wrth gwrs, bydd lluniaeth am ddim ar gael drwy gydol y digwyddiad. Bydd hyd yn oed tote bag yn llawn pethau da ar gael yn rhad ac am ddim i ymwelwyr.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Age Cymru Gwent, James Shaughnessy: "Mae ein helusen yn darparu ystod eang o wasanaethau, sy'n ymroddedig i gefnogi pobl hŷn yng Ngwent. Mae'r digwyddiad hwn, a gynhelir gyda Phrosiect HOPE Age Cymru, yn gyfle gwych i bobl gwrdd â'r ddau dîm dros baned a chlywed pa fath o gefnogaeth rydyn ni’n ei gynnig iddyn nhw a'u hanwyliaid."

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad ffoniwch Michael Mitchell ar 07944 995616 neu e-bostiwch: michael.mitchell1@agecymru.org.uk.

I gael gwybodaeth gyffredinol am brosiect HOPE ffoniwch 029 2043 1555 neu ewch i www.agecymru.org.uk/advocacy. 

Diwedd

 

Last updated: Ebr 03 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top