Skip to content
Cyfrannwch

Elusen yn lansio canllaw i helpu pobl hŷn i fynnu eu holl hawliau

Published on 12 Mai 2023 12:36 yh

Mae gwerth mwy na 200 miliwn o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn

Mae Age Cymru wedi lansio’r canllaw Mwy o Arian yn eich poced er mwyn helpu ac annog pobl hŷn i hawlio budd-daliadau.

Er bod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, mae gwerth mwy na £200m o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.  Mae hyn yn ogystal â’r symiau enfawr sydd heb eu hawlio ar gyfer amrywiaeth o fudd-daliadau eraill.

Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, mae ein gwefannau cyngor ar fudd-daliadau wedi cael eu mynychu 73,728 tro.  Mae miloedd o alwadau wedi cyrraedd ein llinell gyngor, gan ddangos pa mor bwysig yw cefnogaeth ariannol i bobl hŷn erbyn hyn.

Meddai prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd "Dyw rhai pobl ddim yn hawlio oherwydd dydyn nhw ddim yn meddwl eu bod nhw’n gymwys, efallai oherwydd eu bod yn berchen ar eu cartref eu hunain neu oherwydd bod ganddynt gynilion. Mae rhai yn cael eu digalonni gan y broses hawlio neu dydyn nhw ddim yn gwybod am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw wrth iddynt fynd yn hŷn. Ac efallai bydd eraill yn teimlo eu bod yn ymdopi neu dydyn nhw ddim eisiau i bobl feddwl bod angen cefnogaeth arnyn nhw.

"Gyda lwc, bydd y canllaw hwn yn annog pobl hŷn i ofyn am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn mynnu eu holl hawliau ynghylch budd-daliadau. O ran Credyd Pensiwn, os oes gennych hawl iddo, ewch i’w hawlio. Mae mwy na 1.5 miliwn o bobl hŷn yn y DU eisoes yn gwneud hynny.  Mae'n gefnogaeth sy'n medru darparu cefnogaeth, a gwaredu ar beth o’r pryder ynghylch talu am filiau."

Mae'r canllaw yn tynnu sylw at ba gymorth sydd ar gael mewn tri chategori penodol: eich pensiwn, eich cartref, a'ch lles.

Mae'r elfen pensiynau yn edrych ar Bensiwn y Wladwriaeth, a sut y gellir ei wella trwy'r Credyd Pensiwn (Cynllun Credyd Gwarant) a'r Credyd Pensiwn (Credyd Cynilo).

Mae'r categori budd-daliadau cartref yn tynnu sylw at gynlluniau gostyngiad treth cyngor, budd-dal tai, taliad tanwydd gaeaf, taliad tywydd oer, a'r cynllun gostyngiad cartref cynnes.

Ac mae'r categori llesiant yn esbonio pa help sydd ar gael gyda threuliau brys neu untro, cymorth gyda chostau iechyd fel triniaeth ddeintyddol a gofal llygaid, a chostau teithio penodol er mwyn derbyn triniaeth gan y GIG.  Mae hefyd yn archwilio lwfans gweini a lwfans y gofalwr.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gymorth presennol sydd ar gael i helpu pobl hŷn trwy'r argyfwng costau byw ewch i wefan Age Cymru: www.agecymru.org.uk/cost-of-living

I archebu copi o'r canllaw Mwy o arian yn eich poced, neu os hoffech ofyn am gefnogaeth gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yr Elusen am hyn neu unrhyw fater arall, ffoniwch 0300 303 44 98 rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu anfonwch e-bost at advice@agecymru.org.uk.

Diwedd

 

Last updated: Mai 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top