Skip to content
Cyfrannwch

Elusen yn apelio ar bobl i ymuno â’i hymgyrch codi arian

Published on 21 Ebrill 2023 10:10 yb

Mae’r elusen Age Cymru yn annog ei chefnogwyr i gasglu arian hanfodol drwy gerdded 10,000 bob dydd yn ystod mis Gorffennaf 

Bydd Age Cymru yn cynnal ei hymgyrch flynyddol, ‘Y Cam Mawr’, drwy gydol mis Gorffennaf 2023.  Bydd yr ymgyrch yn helpu i gasglu arian hanfodol a fydd yn cefnogi gwaith yr elusen.   

Mae Age Cymru yn gofyn i bawb sydd eisiau cymryd rhan i gerdded 10,000 cam bob diwrnod drwy gydol y mis, ac i gasglu arian wrth ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr. 

Yn ystod 2022, gwnaeth Age Cymru mwy na 10,000 o alwadau cyfeillgarwch i bobl hŷn unig.  Eleni, mae’r elusen yn rhoi her i’r cyhoedd i anelu am y rhif hynny drwy gwblhau 10,000 o gamau bob dydd, neu mor agos at 10,000 o gamau a phosib. 

Mae Age Cymru yn dweud bod nifer o bobl hŷn wedi gorfod rhoi’r gorau i fwynhau pleserau syml bywyd.  Mae cadw llygad ar gyllideb eu cartrefi’n golygu bod nifer o bobl hŷn yn gorfod cyfyngu ar brofiadau fel cwrdd â theulu a ffrindiau am ddishgled o de a chlonc.  Mae hi felly’n hynod o bwysig bod gwasanaethau sy’n darparu cyngor a chyfeillgarwch yn cael eu cynnal. 

Ychwanegodd Age Cymru bod 220,000 o bobl hŷn yng Nghymru’n dweud eu bod yn teimlo’n unig, ac felly mae’r elusen yn awyddus i sicrhau eu bod yn cyrraedd cymaint o bobl hŷn a phosib. 

Mae £10 yn golygu y gallwn ymateb i gais am gyngor gan berson hŷn sydd yn chwilio am gefnogaeth. 

Mae £15 yn golygu y gallwn sicrhau bod dau berson hŷn unig yn derbyn galwadau cyfeillgarwch bob wythnos. 

Gallwch chi helpu Age Cymru i gefnogi pobl hŷn ledled Cymru drwy ymuno â her ‘Y Cam Mawr’ a chasglu arian hanfodol ar gyfer yr elusen.  Ewch i agecymru.org.uk/thebigstep neu ffoniwch 029 2043 1555.  Os ydych chi’n llwyddo i gasglu dros £50, byddwch chi’n ennill crys-t ‘Y Cam Mawr’.   

 Diwedd 

 

 

Last updated: Ebr 21 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top