Dyddiad cau credyd pensiwn
Published on 10 Rhagfyr 2024 04:18 yh
Elusen yn annog pensiynwyr i hawlio credyd pensiwn erbyn 21 Rhagfyr er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y taliadau tanwydd gaeaf
Mae Age Cymru’n annog pensiynwyr i hawlio credyd pensiwn erbyn 21 Rhagfyr er mwyn bod yn gymwys am daliadau tanwydd gaeaf hanfodol. Ar ddechrau’r hydref, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod yn cyflwyno rheolau newydd sy’n cyfyngu taliadau tanwydd gaeaf i bobl sy’n hawlio credyd pensiwn a budd-daliadau eraill sy’n dibynnu ar brawf modd.
Mae rheolau’r Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi bod yn rhaid i bobl fod wedi cyrraedd oedran hawlio pensiwn y wladwriaeth, ac yn derbyn credyd pensiwn yn ystod wythnos 16 – 22 Medi cyn eu bod yn medru hawlio’r taliadau tanwydd gaeaf eleni. Ond mae modd ôl-ddyddio ceisiadau am dri mis, felly gallwch wneud cais tan 21 Rhagfyr. Ond cofiwch ofyn am gais sydd wedi cael ei ôl-ddyddio oherwydd ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud hynny drosoch. Efallai bydd budd-daliadau eraill sy’n dibynnu ar brawf modd, fel credyd cynhwysol, yn cael eu defnyddio er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y taliadau tanwydd gaeaf.
Mae Angharad Phillips yn arwain ymgyrch Lles drwy Wres yr elusen; dywedodd “Mae’n hanfodol bod pobl hŷn yn gwirio i weld os ydyn nhw’n gymwys ar gyfer credyd pensiwn. Os ydyn nhw’n gymwys, mae angen iddyn nhw wneud cais er mwyn elwa o’r taliadau tanwydd gaeaf a chadw eu cartrefi’n gynnes, a chadw eu hun yn ddiogel dros y gaeaf, yn enwedig pobl sy’n dioddef cyflyrau iechyd hirdymor.
“Nid yw 56,000 o’r bobl yng Nghymru sy’n gymwys i dderbyn credyd pensiwn yn gwneud cais, gan adael mwy na £117 miliwn heb ei hawlio. Hyd yn oed os nad ydych chi wedi gwneud cais llwyddiannus o’r blaen, ewch ati i i wneud cais newydd, oherwydd mae amrediad budd-daliadau yn medru newid, ac efallai bod eich amgylchiadau personol wedi newid.”
Sut i wneud cais am gredyd pensiwn
- Ffoniwch linell ffôn ceisiadau Credyd Pensiwn: 0800 99 1234 (neu gyrrwch neges destun at 0800 169 0133). Cofiwch mai dydd Sadwrn yw 21 Rhagfyr, felly bydd angen i chi wneud cais dros y ffôn erbyn dydd Gwener 20 Rhagfyr
- Gwnewch gais ar-lein: www.gov.uk/pension-credit/how-to-claim - I wneud cais drwy’r post, ffoniwch y rhif ffôn er mwyn gofyn am ffurflen, ond cofiwch mae’n bosib bydd oedi oherwydd galw ar y gwasanaeth post cyn y Nadolig.
Mae Age Cymru wedi creu canllaw o’r enw Canllaw’r Gaeaf sy’n egluro beth allwch chi wneud er mwyn paratoi eich cartref ar gyfer y gaeaf. Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth yn ystod y misoedd oeraf. Mae’r elusen yn cynnal ymgyrch o’r enw Lles drwy Wres sy’n sôn am amrywiaeth o ffyrdd gallwch gadw’n gynnes, yn ddiogel ac yn iach dros y gaeaf.
Os hoffech chi fwy o fanylion am yr ymgyrch, neu i archebu copi o Ganllaw’r Gaeaf am ddim, ffoniwch Angharad Phillips ar 029 2043 1555, e-bostiwch angharad.phillips@agecymru.org.uk, neu ewch i www.agecymru.org.uk/spreadthewarmth.
diwedd