Skip to content
Cyfrannwch

Dros gyfnod y Nadolig, mae unigrwydd yn effeithio ar filoedd o bobl hŷn ledled Cymru

Published on 26 Ionawr 2024 10:25 yb

  • Mae diwrnod Nadolig yn ddiwrnod anodd iawn i nifer o bobl hŷn
  • Mae Age Cymru’n lansio ymgyrch godi arian, diwrnod anoddaf y flwyddyn

Fel rhan o ymgyrch Nadolig, mae Partneriaeth Age Cymru wedi rhannu gwaith ymchwil newydd, diwrnod anoddaf y flwyddyn, er mwyn pwysleisio pa mor unig ac ynysig mae miloedd o bobl hŷn ledled Cymru, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.

Yn ôl gwaith ymchwil gan y Bartneriaeth, mae 85,000 o bobl dros 65 oed yn bwriadu bwyta cinio Nadolig ar eu pen eu hun.

Dywedodd 112,000 o bobl hŷn, tua un ymhob chwech, mai diwrnod Nadolig yw diwrnod anoddaf y flwyddyn.  Dywedodd tua un ymhob pump eu bod yn dymuno cael cwmni dros y Nadolig.

Ond mae unigrwydd yn effeithio ar bobl drwy’r flwyddyn, ac mae’r achosion yn gymhleth.  Efallai bod perthynas agos wedi marw, neu mae salwch yn cadw pobl yn gaeth i’r tŷ, neu mae teulu neu ffrindiau wedi symud i ffwrdd.

Roedd ymatebion arolwg arall yn pwysleisio effaith y pandemig ar unigrwydd oherwydd bod rhai yn llai awyddus i gymdeithasu.  Roedd un ymateb yn nodi “Y broblem fwyaf yw unigrwydd ac ynysigrwydd wedi Covid.  Mae perthnasau wedi newid.  Mae fel petai fod pobl yn llai parod i gymysgu.”

Meddai’r Prif Weithredwr Victoria Lloyd “Mae Partneriaeth Age Cymru yn gweithio’n galed i leihau unigrwydd drwy gydol y flwyddyn drwy ddarparu gwasanaethau cyfeillgarwch a chefnogaeth i bobl mewn angen. 

 “Llynedd, gwnaeth gwasanaethau gwybodaeth a chyngor y Bartneriaeth ymateb i dros 48,000 o ymholiadau.  “Gwnaeth mwy na 11,000 o bobl hŷn dderbyn cymorth gan ein gwasanaethau cefnogaeth, sy’n hynod o bwysig dros adeg y Nadolig.

 “Ond mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod angen i ni wneud mwy.  Rydyn ni’n medru gwneud hyn gyda chefnogaeth y cyhoedd.  Os ydych chi’n medru gwneud rhodd, neu’n medru cynnal digwyddiad i godi arian dros y Nadolig, ewch ati er mwyn ein helpu ni i gyrraedd mwy o bobl hŷn.”

I wneud rhodd ewch i www.agecymru.org.uk/christmas neu ffoniwch 029 2043 1555 

Gan egluro sut fydd rhoddion o arian yn helpu, meddai Victoria Lloyd “Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau Cyfeillgarwch, Gwybodaeth a Chyngor, a bydd pobl hŷn yn elwa o gyfeillgarwch mewn gweithgareddau grŵp, digwyddiadau cymdeithasol a chyswllt gyda’n gwirfoddolwyr.

 “Mi fydd hefyd yn sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen gydag amrywiaeth o faterion dros y Nadolig, e.e ymdopi gyda phrofedigaeth, costau’r cartref, gofal a chefnogaeth, neu ddeall pa gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned.”

Mae Age Cymru’n cyhoeddi canllaw o’r enw Mwy o Arian yn eich Poced sy’n darparu gwybodaeth am amrywiaeth o fudd-daliadau a sut i’w hawlio.  Mae yna amrywiaeth o ganllawiau ar gael yn rhad ac am ddim wrth Gyngor Age Cymru.

Os hoffech chi gyngor am eich hawliau neu weithgareddau’r elusen, ffoniwch 0300 303 44 98 (cyfradd leol) o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, neu ewch i www.agecymru.org.uk.

diwedd.

Nodiadau i olygyddion.

Gwnaeth Yonder gynnal cyfweliadau ar-lein a dros y ffôn gyda hapsampl o 129 o bobl dros 65 oed rhwng 14 a 17 Hydref 2023.  Mae Yonder yn aelod sefydlu o Gyngor Pleidleisio Prydeinig ac yn cydymffurfio â’i reolau.  I gael mwy o wybodaeth ewch i http://www.britishpollingcouncil.org/ 

I gael y ffigurau, troswyd yr ymatebion i ganrannau a’u rhoi yn erbyn ffigwr sylfaen 662,000 o bobl dros 65 oed sy’n byw yng Nghymru.

Mae Partneriaeth Age Cymru’n cynnwys Age Cymru, Age Cymru Dyfed, Age Cymru Gwent, Age Cymru Gwynedd a Môn, Age Cymru Powys, ac Age Cymru Gorllewin Morgannwg.

 

Last updated: Ion 26 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top