Skip to content
Cyfrannwch

Digwyddiad: Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn – Senedd Cymru, Caerdydd, 31 Ionawr 2023

Published on 06 Chwefror 2023 08:10 yh

Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn – Senedd Cymru, Caerdydd, 31 Ionawr 2023

Yn ystod y pandemig, roedd pobl hŷn yn fwy tebygol o adael y gweithlu nag unrhyw grŵp oedran arall. I nifer, nid yw ail-ymuno â’r gweithlu yn opsiwn . Mae pobl hŷn yn medru wynebu nifer o rwystrau wrth fynychu cyflogaeth a pharhau i weithio. Mae rhwystrau’n cynnwys diffyg gweithio hyblyg ar gyfer unigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu, neu unigolion sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Ond gyda’r gefnogaeth gywir, gall bobl hŷn sydd eisiau parhau i weithio llwyddo yn y gweithle.

Mae’r argyfwng costau byw wedi cael effaith wael ar bobl hŷn. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n galluogi pobl hŷn i fynychu’r gweithle, a pharhau i weithio os ydynt yn dymuno. Mae pobl hŷn sydd yn derbyn cefnogaeth i barhau i weithio yn fwy gwydn wrth wynebu’r argyfwng costau byw presennol. Maent yn medru datblygu dyfodol sydd yn fwy diogel o ran eu harian.

Mae Age Cymru a’i bartneriaid wedi trefnu digwyddiad ‘Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn’. Cynhelir y digwyddiad yn adeiladau’r Senedd yng Nghaerdydd ar 31 Ionawr 2023, rhwng 12pm a 2pm.

Mae’r digwyddiad wedi ei selio ar gasgliad o draethodau a ysgrifennwyd yn 2022 gan academyddion, cyflogwyr a gweithwyr hŷn ar gyfer papur academaidd Age Cymru, EnvisAGE.

Bydd y digwyddiad, a noddir gan Mike Hedges AS, yn archwilio sut mae cyflogwyr yng Nghymru yn creu gweithleoedd lle gall gweithwyr hŷn ffynnu, a'r manteision y gall gweithlu cymysg o ran oedran eu cynnig i sefydliadau. Bydd y digwyddiad hefyd yn ymchwilio rhai o'r rhwystrau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu wrth chwilio am swydd, neu wrth geisio parhau i weithio.

Bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwaith a phobl hŷn. Bydd yna gyflwyniadau gan yr Athro John Williams, Athro Emeritws, Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Age Cymru; Dr Martin Hyde, Athro Cysylltiol mewn Gerontoleg ym Mhrifysgol Abertawe; a Sue Husband OBE, Cyfarwyddwr, Busnes yn y Gymuned (Cymru).

Bydd Glynis Scarico o Legal & General, sydd yn gyflogwr cynhwysol o ran oedran, yn egluro sut maent yn elwa o gyflogi gweithlu cymysg o ran oedran. A bydd un o'u gweithwyr, Vivienne Russell , yn siarad o am ei phrofiadau personol o weithio i sefydliad sy'n gyfeillgar i oedran.

Yn ogystal â'r cyflwyniadau bydd cyfle i rwydweithio a mynychu stondinau gwybodaeth sy’n berthnasol i'r gweithlu hŷn. Bydd lluniaeth ysgafn hefyd ar gael i westeion.

Os hoffech fynd i'r digwyddiad, cysylltwch â Dr Ceri Cryer drwy e-bostio ceri.cryer@agecymru.org.uk, neu ffoniwch 029 2043 1555. Dim ond ychydig o lefydd sydd ar gael, a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

 

Last updated: Chw 07 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top