Skip to content
Cyfrannwch

Cyngor i bobl hŷn ynglŷn â chadw'n ddiogel, yn gynnes ac yn iach yn ystod cyfnodau oer

Published on 31 Ionawr 2024 03:46 yh

Cymorth ariannol a chyngor ar gael i’ch helpu i dalu biliau bwyd a thanwydd

Hen berson yn gwisgo het a sbectol

Disgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig

Gyda rhagolygon am eira a thywydd oer ledled Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, mae Age Cymru yn cynnig awgrymiadau a chyngor i helpu pobl hŷn i gadw'n ddiogel, yn gynnes, ac yn iach yn ystod cyfnodau oer.

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar nifer o bobl, ac efallai bydd yna demtasiwn i beidio defnyddio’r system wresogi yn eich tŷ.  Ond mae'r elusen yn dweud bod cadw'n gynnes yn rhoi llai o straen ar y galon a'r ysgyfaint, yn gwella symptomau cyflyrau iechyd, ac yn helpu gyda rheoli poen.

Gall cadw’n gynnes hefyd ddiogelu lles corfforol a meddyliol gan helpu pobl i ymateb i'r heriau niferus a ddaw gyda’r gaeaf. 

Mae'r elusen yn cynghori pobl hŷn i gadw eu hun a rhannau o'u cartref yn gynnes trwy wresogi eu hystafelloedd gwely i tua 18°C/65°F a'r prif ystafelloedd byw i 21°C/70°F.   

Meddai Angharad Phillips, Swyddog Mentrau Iechyd Age Cymru: "Dylai pobl fwyta'n iach ac yfed digon o ddŵr a diodydd poeth drwy gydol y dydd.  

"Rydym hefyd yn argymell prynu digon o eitemau bwyd sylfaenol fel llaeth, bara, bwydydd tun a sych rhag ofn na fyddwch yn medru gadael y tŷ am gyfnod o amser. Mae hefyd yn syniad da cadw rhestr o rifau cyswllt brys rhag ofn y bydd eu hangen arnoch a sicrhau eich bod yn cadw mewn cysylltiad â ffrind, perthynas neu elusen.

Ychwanegodd "Crynu yw ffordd ein corff o ddweud wrthym fod angen i ni symud er mwyn cynhyrchu gwres felly rhowch gynnig ar ymarferion ysgafn neu ewch ati i wneud rhai tasgau o gwmpas y cartref, fel glanhau. Os ydych chi'n mentro y tu allan gwisgwch benrhwym neu sgarff i orchuddio'ch trwyn a'ch ceg gan y bydd hyn yn cynhesu'r aer rydych chi'n ei anadlu ac yn helpu i atal aer oer rhag mynd i mewn i'ch brest.

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl hŷn yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau bwyd a thanwydd ond mae help a chefnogaeth ar gael, felly rydyn ni'n annog pawb i beidio esgeuluso eu hiechyd."

Y llynedd fe wnaeth Partneriaeth Age Cymru helpu pobl hŷn ledled y wlad i hawlio dros £7.5m, ond mae am wneud cymaint mwy. Yn anffodus, mae gwerth miliynau o bunnoedd o gymorth, gan gynnwys gwerth £200m o Gredyd Pensiwn, yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn. 

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi y bydd y trydydd taliad costau byw o £299 yn cael ei dalu rhwng 6 Chwefror 2024 a 22 Chwefror 2024. 

I fod yn gymwys ar gyfer y taliad hwn, rhaid eich bod wedi bod â hawl i dderbyn budd-dal cymwys, fel Credyd Pensiwn, rhwng 13 Tachwedd 2023 a 12 Rhagfyr 2023. Oherwydd rheolau ôl-ddyddio gyda Chredyd Pensiwn, lle gallwch ofyn am ôl-ddyddio hawliad am hyd at dri mis, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys am y trydydd Taliad Costau Byw, hyd yn oed os nad ydych yn cael Credyd Pensiwn eto.

Mae'r elusen yn cyhoeddi canllaw o'r enw Mwy o Arian yn eich Poced sy'n cynnig gwybodaeth am ystod o fudd-daliadau a sut i fynd ati i'w hawlio. 

Os hoffech chi siarad â rhywun yn uniongyrchol am fudd-daliadau a hawliadau, ffoniwch Age Cymru ar 0300 303 44 98 (codir tâl lleol) o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm. Gallwch hefyd anfon neges e-bost at advice@agecymru.org.uk neu ymweld â www.agecymru.org.uk/cost-of-living.

Diwedd

 

Last updated: Ion 31 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top