Byddwch yn ddiogel yn ystod Gŵyl Calan Gaeaf
Published on 08 Rhagfyr 2024 06:34 yh
Byddwch yn ddiogel yn ystod Gŵyl Calan Gaeaf
Mae Calan Gaeaf yn medru bod yn llawer o hwyl, ac mae plant wrth eu bodd yn casglu losin a galw “cast ynteu geiniog” ar stepen y drws. Ond i rai, mae Calan Gaeaf yn medru bod yn gyfnod anodd, yn enwedig os ydyn nhw’n byw ar eu pen eu hun ac yn ofni clywed cloch y drws wedi iddi nosi.
Dylai pawb deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hun, felly mae gan Age Cymru syniadau am sut i fwynhau’r dathliadau.
Os ydych chi’n poeni am noson Calan Gaeaf, ewch ati i wahodd ffrind neu anwylyn i dreulio’r prynhawn gyda chi fel bod gennych chi gwmni wrth iddi nosi. Cofiwch gysylltu cadwyn y drws, ac edrychwch drwy’r ffenest i weld pwy sydd yno cyn agor y drws. Byddwch yn arbennig o ofalus os oes mwy nag un person wrth y drws.
Peidiwch agor y drws os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel. Os nad ydych chi’n siŵr, peidiwch ag agor y drws.
Os ydych chi allan yn galw “cast ynteu geiniog”, cofiwch na fydd pawb eisiau ymuno â’r hwyl. Edrychwch i weld os oes pwmpen tu allan i’r tŷ, mae hynny’n arwydd da bod y bobl tu fewn yn hapus i’ch croesawu.
Peidiwch wneud gormod o sŵn wrth iddi nosi. Os nad oes rhywun yn ateb y drws i chi, symudwch ymlaen i’r tŷ nesaf. Peidiwch â pharhau i guro’r drws a chanu’r gloch.
Mae Calan Gaeaf yn gyfle gwych i bobl hŷn gysylltu â’r gymuned a mwynhau cwmni pobl eraill yn ystod y misoedd tywyll. Os ydych chi’n cynnal digwyddiad, beth am wahodd eich cymdogion hŷn?
Mwynhewch y dathliadau, ond byddwch yn ddiogel.
Diwedd