Skip to content
Cyfrannwch

Bathodynnau Glas: mae angen i awdurdodau lleol yng Nghymru hyrwyddo dewisiadau amgen heblaw ffurflenni cais ar-lein

Published on 07 Mehefin 2023 12:43 yh

Mae angen i bobl hŷn ofyn am broses ymgeisio sy’n gyfleus iddyn nhw

Person hŷn yn cael trafferthion wrth gwblhau cais ar-lein

Mae angen i awdurdodau lleol yng Nghymru hyrwyddo’r ffaith nad oes rhaid i bobl ddefnyddio technoleg ar-lein i ymgeisio am y cynllun bathodynnau glas.  Mae prosesau amgen ar gael.

Dylai pobl hŷn ofyn am opsiwn amgen heblaw proses ymgeisio ar-lein os mai dyna sut hoffent ymgysylltu gyda’u hawdurdod lleol. 

Mae Age Cymru yn galw am newidiadau yn dilyn gwaith ymchwil gan yr elusen.  Sefydlwyd bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnig o leiaf un opsiwn amgen heblaw proses ymgeisio ar-lein.  Mae’r opsiynau amgen yn cynnwys opsiwn wyneb yn wyneb, y post, y ffôn, a hyd yn oed ymweliadau i’r cartref mewn rhai achosion, ond mae rhai awdurdodau lleol yn ymddangos yn amharod i hyrwyddo’r opsiynau hyn.

Wrth wneud ein gwaith ymchwil, nododd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol mai’r ffordd orau i wneud cais oedd mynd ar-lein.  Daeth opsiynau amgen i’r amlwg ar ôl trafodaethau ehangach yn unig. 

Mae’r elusen wedi clywed am achosion ble wnaeth rhai pobl hŷn roi’r gorau i’w cais ar ôl derbyn cyngor i fynd ar-lein, oherwydd doedden nhw ddim wedi arfer ymwneud ag awdurdodau lleol.  Mewn sawl achos roedd hi’n anodd dod o hyd i rif ffôn addas er mwyn cysylltu gydag awdurdod lleol er mwyn dod o hyd i gyngor.

Mae pwysigrwydd hyrwyddo rhifau ffôn ac annog pobl i ddefnyddio prosesau all-lein yn cael ei amlygu gan adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru, Cynhwysiant Digidol yng Nghymru, Mawrth 2023.  Yn ôl yr adroddiad mai bron i draean (32%) o bobl dros 75 oed yng Nghymru wedi cael eu hallgáu yn ddigidol.  Nododd yr adroddiad hefyd, ymhlith pobl dros 75 oed sydd â pheth mynediad at dechnoleg ddigidol, dim ond 41% oedd â’r sgiliau digidol angenrheidiol er mwyn medru cwblhau’r broses ymgeisio gymhleth.

Yn amlwg, mae nifer o bobl hŷn yng Nghymru’n methu gwneud ceisiadau ar-lein.

Meddai Victoria Lloyd, prif weithredwr Age Cymru “Yn fwy nag erioed, mae angen i ni annog pobl hŷn i ymgysylltu â’u cymunedau unwaith eto wedi’r pandemig.  Mae creu rhwystrau fel hyrwyddo ffurflenni cais ar-lein yn unig yn mynd i atal nifer o bobl hŷn rhag derbyn eu bathodynnau glas, rhywbeth sy’n achubiaeth i nifer o bobl mewn nifer o ffyrdd.

“Rydyn ni’n gwybod bod nifer o bobl hŷn yn methu, neu’n gwrthod defnyddio technoleg ar-lein am amryw o resymau.  Mae rhai’n methu fforddio’r dechnoleg, mae rhai’n methu ei ddefnyddio, ac mae nifer â drwgdybiaeth o dechnoleg ar-lein oherwydd eu bod yn ofni dioddef sgamiau. 

“Rydyn ni felly’n annog awdurdodau lleol i hyrwyddo rhifau ffôn mewn llefydd fel hybiau lleol, meddygfeydd teulu, addoldai, ac archfarchnadoedd; llefydd mae pobl hŷn yn mynychu ble gallant ddod o hyd i wybodaeth bwysig.  Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried rhoi gwybodaeth mewn cyfarwyddiaduron lleol os nad ydynt yn gwneud hynny’n barod.  Os ydyn nhw’n creu unrhyw bosteri neu hysbysebion, mae angen iddynt wneud yn glir bod pobl yn medru ymgysylltu gyda nhw all-lein o hyd.”

Cwblhawyd y gwaith ymchwil mewn ymateb i broblemau a nodwyd gan Gyngor Age Cymru, a HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu); prosiect eiriolaeth cenedlaethol Age Cymru sy’n darparu eiriolaeth annibynnol ar gyfer pobl hŷn a gofalwyr yng Nghymru.

Os hoffai unrhyw un dderbyn gwybodaeth neu gyngor gan yr elusen am hyn neu am unrhyw fater arall, ffoniwch 0300 303 44 98 rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu e-bostiwch advice@agecymru.org.uk.  Gallwch chi hefyd ymweld â gwefan yr elusen: www.agecymru.rg.uk/advice

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol am brosiect HOPE yma: www.agecymru.org.uk/advocacy, neu e-bostiwch advocacy@agecymru.org.uk, neu ffoniwch 029 2043 1555.

diwedd

 

Last updated: Meh 07 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top