Skip to content
Cyfrannwch

Asesiad gan Age UK o'r Effaith ar Gydraddoldeb o doriadau i Daliadau Tanwydd y Gaeaf: Datganiad Age Cymru

Published on 08 Rhagfyr 2024 06:58 yh

Mae'n warthus na fydd mwy nag 86% o bensiynwyr Cymru sy'n byw mewn tlodi neu ychydig yn uwch na’r ffin tlodi bellach yn derbyn y Taliadau Tanwydd Gaeaf; dyma'r gyfran uchaf o unrhyw genedl neu ranbarth yn y DU. Mae hyn yn cyfateb i fwy na 100,000 o bobl, ac mae llawer ohonynt eisoes yn wynebu heriau anodd fel byw gydag anabledd, neu maen nhw’n bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Maent hefyd yn fwy tebygol o fod yn byw mewn hen gartrefi sy'n anoddach i’w gwresogi.

Mae angen i Lywodraeth San Steffan wyrdroi’r penderfyniad i gyfyngu taliadau i'r rhai sy'n hawlio Credyd Pensiwn, yn enwedig yma yng Nghymru lle nad yw mwy na 56,000 o bobl sy'n gymwys am Gredyd Pensiwn yn ei hawlio.

Mae pobl ledled Cymru wedi cysylltu gyda ni i ddweud y byddant yn cael trafferth heb y taliadau.  Bydd rhai yn gorfod gwario llai o arian ar fwyd, gwres a dŵr poeth. Rydym yn clywed gan bobl â chyflyrau iechyd hirdymor sy'n gorfod cynhesu eu cartrefi, felly byddant yn gorfod prynu llai o fwyd.

Yn arolwg blynyddol Age Cymru yn 2024 o fwy na 1300 o bobl hŷn ledled Cymru, clywsom fod bron i hanner y bobl hŷn o'r farn bod costau byw wedi bod yn her yn ystod y 12 mis diwethaf, a dywedodd mwy na hanner eu bod yn cael problemau gyda'u hiechyd corfforol. Bydd hyn yn gwaethygu gyda thoriadau i'r cymorth ariannol hanfodol hwn yn ystod misoedd y gaeaf.

Os bydd Llywodraeth San Steffan yn bwrw ymlaen â'r newid, yna mae angen iddynt ehangu’r Taliadau Tanwydd Gaeaf trwy ei gynnig yn awtomatig i'r rhai sy'n derbyn Budd-dal Tai, Cymhorthdal y Dreth Gyngor, Lwfans Annibyniaeth Personol, Lwfans Gweini, a Lwfans Gofalwyr.

Dyfyniadau o Gymru yn ymateb i'r cwestiwn: Sut fyddwch chi neu'ch anwylion yn ymdopi â hyd at £300 yn llai y gaeaf hwn?

  • Bydd ymdopi ar fy mhensiwn yn her fawr. Collais fy ngŵr ddwy flynedd yn ôl, ac mae byw ar un pensiwn yn bryder cyson a dwi’n poeni am sut rydw i'n mynd i dalu fy miliau.
  • Bydd yn rhaid i ni droi’r gwres i ffwrdd a defnyddio llai o ynni wrth goginio, gwresogi a defnyddio dŵr poeth. Oherwydd rhesymau iechyd, mae hyn yn mynd i fod yn anodd iawn.
  • Mae'r taliad hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'm costau ynni dros y gaeaf oherwydd nid oes angen i mi leihau'r tymheredd yn fy fflat. Mae gen i broblemau meddygol sy'n golygu fy mod i'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser y tu mewn.
  • Rydym yn byw mewn cymuned wledig oddi ar y prif gyflenwad nwy. Mae ein gwres yn cael ei danio ac mae'r taliad tanwydd gaeaf yn talu am un rhan o chwech o danc o olew. Mae gan fy ngwraig glefyd cronig yr arennau ac mae'n teimlo'r oerfel yn ofnadwy, felly roedd y taliad yn sicr yn gwneud pethau'n haws i ni.
  • Rwy'n sâl yn barhaus ac mae angen cartref cynnes arnaf. Heb yr help ni fyddaf yn gallu cadw'n ddigon cynnes i gael ansawdd bywyd. Bydd yn rhaid i mi fwyta llai o fwyd.

Diwedd.

Last updated: Rhag 08 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top