Skip to content
Cyfrannwch

Annog pleidiau gwleidyddol i wneud bywyd yn well i bobl hŷn yng Nghymru

Published on 02 Gorffennaf 2024 09:54 yb

O dlodi pensiynwyr i allgáu digidol, mae Age Cymru’n amlygu'r heriau allweddol sy'n wynebu pobl hŷn

Age Cymru’n lansio ei maniffesto cyn Etholiad Cyffredinol 2024

O dlodi pensiynwyr i allgáu digidol ac o gadw cartrefi'n gynnes i gau banciau, mae Age Cymru’n tynnu sylw at rai o'r heriau allweddol sy'n wynebu pobl hŷn yng Nghymru yn ei maniffesto cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf.

Mae'r elusen yn annog Llywodraeth nesaf y DU i helpu i fynd i'r afael â thlodi pensiynwyr drwy sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Bob blwyddyn mae dros £200m o Gredyd Pensiwn yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru gan fod llawer o bobl naill ai'n anymwybodol o'r budd-dal neu'n teimlo bod y broses ymgeisio’n rhy gymhleth. Rhaid i'r llywodraeth newydd hyrwyddo'r manteision amrywiol sydd ar gael i bobl hŷn yn ehangach a symleiddio'r prosesau ymgeisio.

Ers 2015, mae 374 o fanciau wedi cau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl hŷn yn cael trafferth wrth geisio cael gafael ar arian parod, ac maen nhw’n dod yn fwy agored i dwyll wrth iddynt naill ai geisio ymdopi gyda bancio ar-lein neu ddibynnu ar eraill i gyflawni eu trafodion. Mae Age Cymru felly’n galw ar Lywodraeth nesaf y DU i weithio gyda'r diwydiant bancio er mwyn sicrhau bod rhyw fath o gyfleusterau bancio cymunedol yn parhau ar ein strydoedd mawr.

Mae allgáu digidol yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn dod yn fwy o broblem i bobl hŷn nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd.  Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu nad yw mwy na thraean o bobl dros 75 oed yng Nghymru yn defnyddio'r rhyngrwyd. Mae hyn yn golygu nad yw llawer o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn gallu cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau allweddol fel help gyda'r dreth gyngor neu wneud cais am drwydded parcio Bathodyn Glas.

Ac os gallant gael mynediad at wasanaethau all-lein, yn aml mae'n rhaid iddynt dalu cost ychwanegol am y 'fraint'. Felly, mae'r elusen yn galw ar y llywodraeth nesaf i sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau allweddol y sector preifat yn cynnig dewis i'w cleientiaid yn y ffordd y maent yn cyfathrebu ac i beidio â chosbi'r rhai sy'n dewis opsiynau all-lein.

Yn ystod y gaeafau diwethaf, mae llawer o bobl hŷn wedi ei chael hi'n anodd cadw eu cartrefi'n gynnes gan fod costau tanwydd wedi cynyddu'n sylweddol. Roedd hyn yn golygu bod llawer o bobl yn gwrthod defnyddio eu systemau gwresogi; gall hyn gael effeithiau dinistriol ar eu hiechyd, yn enwedig y rhai sydd â phroblemau'r galon a'r frest. Mae Age Cymru’n galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r mecanweithiau prisio ynni ar gyfer pobl sydd ar incwm cymedrol neu isel a phobl sy'n wynebu biliau ynni uchel yn anochel, oherwydd anabledd neu salwch.  Mae hefyd yn galw am raglenni inswleiddio cartrefi mwy uchelgeisiol ac effeithiol.

Meddai prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, "Mae pobl hŷn yng Nghymru yn wynebu heriau anodd ar hyn o bryd oherwydd ansicrwydd ynghylch sut y byddant yn fforddio talu eu biliau tanwydd yn ystod y gaeaf, a sut y byddant yn cael mynediad at wasanaethau hanfodol fel bancio a budd-daliadau oherwydd nad ydyn nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd.

"Mae'r heriau hyn yn ychwanegol i'r rhai sy'n rhan o gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, er enghraifft problemau o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

"Gall yr heriau cronnus hyn fod yn llethol i rai gan arwain pobl i deimlo eu bod wedi colli eu hannibyniaeth.

"Ond rhaid i Lywodraeth nesaf y DU beidio ag anwybyddu pobl hŷn, ac yn hytrach dechrau gweithredu'r newidiadau angenrheidiol er mwyn gwneud bywyd yn well i bobl hŷn o’r diwrnod cyntaf.

"Bywyd lle gall pobl hŷn fod yn hyderus wrth dalu eu biliau, gyda chyfle i gadw peth arian er mwyn mwynhau cymdeithasu gyda theulu a ffrindiau. A bywyd lle maen nhw'n gallu cael gafael ar yr holl gyngor a gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, heb deimlo fel baich".

Mae ein glasbrint ar gyfer Cymru ar gael ar ein gwefan:www.agecymru.org.uk/election.  I gael fersiwn bapur ffoniwch Rhian Morgan ar 07944 996943.

 

Last updated: Gor 02 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top