Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru’n cynnal hysting yn Ne Cymru cyn yr etholiad er mwyn clywed sut fyddai ymgeiswyr yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu pobl hŷn

Published on 04 Gorffennaf 2024 04:13 yh

Clwb Rygbi Coed Duon, 24 Mehefin – 1:30pm tan 2:30pm 

Mae pobl hŷn yn wynebu heriau anodd iawn ar hyn o bryd, yn cynnwys tlodi ymhlith pensiynwyr, allgau digidol, cadw eu cartrefi’n gynnes a banciau’n cau.  Rydyn ni eisiau clywed sut fyddai ymgeiswyr lleol yn mynd i’r afael â’r problemau hyn mewn hysting lleol ar gyfer etholaeth newydd Gorllewin Casnewydd ac Islwyn. 

Bydd Age Cymru Gwent yn eich croesawu i’r digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Coed Duon.  Mae’r trefnwyr yn gwahodd pleidleiswyr lleol i gyflwyno eu cwestiynau am yr heriau sy’n wynebu pobl hŷn lleol er mwyn dysgu am gynlluniau’r pleidiau gwahanol a darparu cyfle i bobl graffu ar nodau’r pleidiau. 

Os hoffech chi gyflwyno cwestiwn a mynychu’r hystings, sy’n rhad ac am ddim, a chlywed beth mae ymgeiswyr lleol yn dweud am faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn, ffoniwch Rhian Morgan ar 07944 996943, e-bostiwch Rhian.morgan@agecymru.org.uk neu ewch i https://www.agecymru.cymru/etholiad 

Cyflwynwch eich cwestiynau ac archebwch eich lle yn y digwyddiad erbyn dydd Iau, 20 Mehefin 2024. 

Diwedd 

 

Last updated: Gor 04 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top