Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru’n cefnogi Wythnos Weithredu'r Adran Gwaith a Phensiynau

Published on 18 Gorffennaf 2023 08:02 yh

Mae mwy na £200 miliwn o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn

Mae Age Cymru’n cefnogi Wythnos Weithredu’r Adran Gwaith a Phensiynau a fydd yn annog pobl hŷn ledled Cymru i ymgeisio am gredyd pensiwn.  Mae mwy na £200 miliwn o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae’r wobr credyd pensiwn cyfartalog werth mwy na £3,500 y flwyddyn, ac mae’n medru arwain at amrywiaeth o fudd-daliadau eraill yn cynnwys cefnogaeth gyda biliau ynni, help gyda’r dreth gyngor a rhent, gostyngiad biliau dŵr, triniaeth ddeintyddol am ddim gyda’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, a thrwydded teledu am ddim os ydych chi’n hŷn na 75 oed.

Mae’r wythnos weithredu, sy’n cael ei chynnal rhwng 12 a 18 Mehefin, yn cael ei chefnogi gan Weinidog dros Bensiynau Llywodraeth San Steffan Laura Trott AS, a Martin Lewis, sefydlwr Money Savings Expert.

Mae credyd pensiwn yn ychwanegu £201.05 at incwm wythnosol pensiynwr sengl, neu £306.85 ar gyfer pâr, neu mwy mewn rhai amgylchiadau, ac mae’n gwbl ar wahân i bensiwn y wladwriaeth.

Meddai Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, “Dydy rhai pobl ddim yn hawlio credyd pensiwn o gwbl oherwydd efallai eu bod nhw’n credu nad ydyn nhw’n gymwys, efallai oherwydd eu bod nhw’n berchen ar eu cartref eu hun, neu mae ganddynt gynilion.  Nid yw rhai pobl eisiau ymgymryd â’r broses hawlio, neu dydyn nhw ddim yn ystyried faint o gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw fel pobl hŷn.  Efallai bod pobl eraill yn teimlo eu bod nhw’n ymdopi, neu dydyn nhw ddim eisiau bod pobl yn meddwl bod angen help arnyn nhw.

“Byddwn ni’n parhau i annog pobl hŷn i chwilio am y gefnogaeth sydd ei angen arnynt er mwyn hawlio eu holl fudd-daliadau.  Mae mwy na 82,000 o bobl hŷn yng Nghymru eisoes yn hawlio credyd pensiwn.  Mae’n fath o gefnogaeth sy’n medru lleihau’r her a’r pryder sydd law yn law â thalu biliau.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd er mwyn helpu pobl hŷn drwy’r argyfwng costau byw, ewch i wefan Age Cymru: www.agecymru.org.uk/cost-of-living

I archebu copi o ganllaw Age Cymru, Mwy o Arian yn eich Poced, neu os hoffech chi gefnogaeth gan wasanaeth gwybodaeth a chyngor yr elusen am hyn neu am unrhyw fater arall, ffoniwch 0300 303 44 98 rhwng 9am a 4pm, dydd Llun tan ddydd Gwener, neu e-bostiwch advice@agecymru.org.uk.

I wneud cais am gredyd pensiwn, ffoniwch linell hawlio credyd pensiwn yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu ewch i www.gov.uk/pension-credit/how-to-claim.

Diwedd

 

Last updated: Gor 18 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top