Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru yn cynnal arddangosfa ffotograffig o Ysgogwyr Newid – pobl sy'n herio stereoteipiau am heneiddio ac sy’n arwain y ffordd yn eu maes

Published on 08 Rhagfyr 2024 07:11 yh

Mae Age Cymru yn cynnal arddangosfa ffotograffig o bobl hŷn yng Nghymru sydd nid yn unig yn herio stereoteipiau am heneiddio ond sydd hefyd yn arloesol yn y meysydd celfyddydol, diwylliant neu chwaraeon.

Tynnwyd y ffotograffau i gyd gan ffotograffydd enwog Cymru, Jon Pountney, a weithiodd gyda'r holl Ysgogwyr Newid i gyfleu eu cymeriad a'u penderfyniad unigryw i lwyddo yn eu maes.

Un o'r Ysgogwyr Newid mwyaf dylanwadol oedd Cymdeithas Pêl-droed Feteraniaid Cymru yn dilyn eu llwyddiant yn nhwrnamaint Cwpan y Byd ar gyfer Feteraniaid yng Nghaerdydd yn ystod haf 2024.

Roedd y twrnamaint  yn gyfnod o bedwar diwrnod, a gynhaliwyd ym Maes Chwaraeon Prifysgol Caerdydd, yn cynnwys un categori ar gyfer pobl dros 70 oed ac un arall ar gyfer pobl dros 75 oed.  Daeth timau o bob cwr o'r byd gan gynnwys Awstralia, Denmarc, Lloegr, yr Almaen, Norwy, UDA ac wrth gwrs Cymru.

Enillodd Cymru'r twrnamaint ar gyfer chwaraewyr dros 70 oed, a daeth y tîm dros 75 oed yn ail yn y gystadleuaeth.

Ond prif nod y twrnamaint oedd rhoi cyfle i chwaraewyr hŷn brofi'r llawenydd, angerdd, iechyd a chyfeillgarwch ar draws pob ffin a darparu profiad bythgofiadwy i'r rhai a gymerodd ran.  Roedd hyn yn amlwg iawn yn ystod y twrnamaint yng Nghymru eleni.

Unigolyn nodedig arall sy'n cael ei ddathlu yw’r cyfansoddwyr, yr arweinydd a'r aml-offerynnwr Karl Jenkins.  Mae Karl yn enwog am ei gyfansoddiadau sy’n cynnwys y gân 'Adiemus', Palladio, The Armed Man, ei Requiem, a'i Stabat Mater.  Mae hefyd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer sawl ymgyrch hysbysebu ar y radio a'r teledu.

Mae'r arddangosfa hefyd yn dathlu un o artistiaid gweledol mwyaf poblogaidd Cymru - yr arlunydd, y gwneuthurwr printiau, a'r awdures Mary Lloyd Jones, Ysgogwr Newid cyntaf yr elusen.

Ymhlith yr unigolion eraill sy'n cael eu dathlu mae Anita Worthing sydd wedi bod yn mwynhau rhedeg uwch-farathonau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac sydd wedi gweithio'n ddiflino i godi arian i elusennau; Meena Upadhyaya, genetegydd arloesol sydd wedi ennill sawl gwobr, ac sy'n angerddol am gefnogi menywod Asiaidd yng Nghymru; Pete Newman a wnaeth ddatblygu gorsaf Radio Gymunedol Blaenau Gwent; a'r actor William Thomas sydd wedi perfformio yn Doctor Who, Torchwood, Pobol Y Cwm, Hinterland/Y Gwyll a'r ffilm enwog Twin Town.

Amseroedd Agor yr Arddangosfa

Dydd Iau 10 Hydref 9am – 7pm

Dydd Gwener 11 Hydref 9am – 5pm

Dydd Sadwrn 12 Hydref 9am – 5pm

Dydd Llun 14 Hydref 9am – 5pm

Dydd Mawrth 15 Hydref 9am – 5pm

Dydd Mercher 16 Hydref 10am - 6pm

Dydd Iau 17 Hydref 9am – 7pm

Gellir gweld ffotograffau o'r arddangosfa ar-lein yma www.agecymru.org.uk/gwanwyn  

Enwebu'ch Ysgogwr Newid

Os ydych chi'n gwybod am berson neu grŵp sydd wedi herio stereoteipiau am heneiddio ac sydd wedi arloesi yn eu maes, beth am eu henwebu i brosiect Ysgogwyr Newid Age Cymru. Bydd eich Ysgogwr Newid yn cael ei ddathlu ochr yn ochr â'n pêl-droedwyr mewn arddangosfa ar-lein a gellir ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect ac arddangosfa Ysgogwyr Newid ffoniwch Age Cymru ar 0300 303 44 98, e-bostiwch gwanwyn@agecymru.org.uk, neu ewch i www.agecymru.org.uk/gwanwyn 

Diwedd

 

Last updated: Rhag 08 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top