Age Cymru: Cyflwyno'r Deiseb am y Taliad Tanwydd Gaeaf gyda Age UK
Published on 18 Chwefror 2025 01:00 yb
Mae Age Cymru yn ymuno gydag Age UK er mwyn cyflwyno deiseb â 650,000 llofnod i Rif 10, Stryd Downing. Mae’r ddeiseb yn annog Llywodraeth y DU i wneud mwy er mwyn helpu pobl hŷn i gadw’n gynnes yn eu cartrefi. Mae angen gweithredu nawr er mwyn sicrhau bod pobl hŷn Cymru yn ddiogel yn ystod y misoedd oer.
Mae Age Cymru ac Age UK wedi cydweithio ar ddeiseb ‘Achub y Taliadau Tanwydd Gaeaf a diogelu pensiynwyr’ sy’n galw ar y Llywodraeth i ail-feddwl newidiadau arfaethedig i’r Taliadau Tanwydd Gaeaf. Yng Nghymru, mae bron 30,000 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb, gan ddangos faint o bobl sy’n poeni am bobl hŷn bregus sy’n methu ymdopi gyda chostau ynni dros y gaeaf.
Meddai Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o’r gefnogaeth rydyn ni wedi ei dderbyn gan bobl ledled Cymru. Mae tua 30,000 o lofnodion yn anfon neges glir at y Llywodraeth bod angen mwy o gefnogaeth ar bobl hŷn. Mae angen gweithredu nawr, ac mae angen i’r Llywodraeth gyflwyno mesurau er mwyn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl hŷn sy’n methu ymdopi heb y taliad hanfodol hwn.”