Skip to content
Cyfrannwch

Teimlo'n Unig

Teimlo'n unig

Os ydych chi'n teimlo'n unig, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Dydy teimlo'n unig ddim o reidrwydd yn golygu nad oes gennych chi unrhyw un gerllaw. Gall ffrindiau a theulu fod bobman o’ch cwmpas, ond rydych yn dal i deimlo'n unig.

Sut i ddelio ag unigrwydd


Mae pawb yn gallu teimlo'n unig, a does dim angen rheswm i deimlo fel hyn o reidrwydd. Weithiau, efallai bydd y teimlad hyd yn oed yn pasio. Ond, efallai bod rheswm, neu efallai nad yw'r teimlad yn pasio'r tro hwn. Fodd bynnag, mae unigrwydd yn ymddangos yn eich bywyd, a sut bynnag mae'n gwneud i chi deimlo, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i deimlo'n llai unig.

Gallai gwybod beth all effeithio ar eich lles meddyliol eich helpu i ddeall y teimladau rydych chi'n eu profi a'ch helpu i feddwl am y camau y gallwch eu cymryd i ofalu amdanoch eich hun. Dyma'r lle gorau i ddechrau. Er ei bod hi'n anodd, ac weithiau efallai na fydd rheswm hyd yn oed, mae'n syniad da i feddwl am yr hyn sy'n eich gwneud chi'n unig. Efallai y bydd yn eich helpu i geisio dod o hyd i ffordd o deimlo'n well.

Os ydych chi'n teimlo'n unig, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Gall y teimlad o unigrwydd ein taro ar unrhyw adeg mewn bywyd, yn aml yn annisgwyl, hyd yn oed os yw'n ymddangos fel pe bai ffrindiau a theulu yn ein hamgylchynu. Beth bynnag allai fod yn gwneud i chi deimlo'n unig, rydyn ni yma i helpu.
________________________________________

Beth all achosi unigrwydd?


Mae yna wahanol resymau pam y gallech chi fod yn teimlo'n unig - efallai eich bod wedi colli rhywun annwyl, wedi symud i ffwrdd oddi wrth ffrindiau a theulu, rydych chi’n gweld eisiau'r cyswllt cymdeithasol a'r mwynhad yr oeddech chi'n arfer ei gael yn eich gweithle, neu mae gennych broblemau iechyd sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi fynd allan a gwneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau. Efallai na fydd unrhyw reswm clir i esbonio sut rydych chi'n teimlo, ac mae hynny'n iawn hefyd.
________________________________________


Sut alla i ddod o hyd i rywun i siarad â nhw?


Mae siarad â phobl yn ffordd wych o ail-fyw hen atgofion a'ch atgoffa o'r holl bethau positif yn eich bywyd.


Pan fyddwch chi'n teimlo'n unig mae'n gallu bod yn demtasiwn i feddwl na fydd neb eisiau clywed gennych chi. Ond yn aml fe welwch chi fod pobl eisiau helpu. Os oes pobl o'ch cwmpas chi y gallwch chi siarad â nhw, gall fod yn syniad da siarad am eich teimladau. Efallai bod hyn yn sgwrs anodd ei chael, ond mewn gwirionedd siarad yw'r ffordd orau o ddechrau teimlo'n well. Gallai siarad â rhywun rydych chi'n ei adnabod rhoi cyfle iddyn nhw geisio eich helpu. Efallai nad oes ganddyn nhw o reidrwydd yr ateb i’ch problem, gall wneud i chi deimlo bod rhywun yn gwrando arnoch, ac yn aml mae cael safbwynt gwahanol yn gallu helpu'n fawr.


Sut alla i wneud cysylltiadau newydd?


Gall treulio amser gyda phobl eraill eich atal rhag teimlo'n unig neu'n bryderus a rhoi cyfle i chi rannu profiadau, meddyliau a syniadau.


1. Efallai eich bod chi eisiau bod o gwmpas pobl mae gennych chi fwy yn gyffredin â nhw. Cysylltwch â'ch Age Cymru lleol i ddysgu pa weithgareddau cymdeithasol y maent yn eu cynnig


2. Os ydych chi'n gweld eisiau'r cysylltiadau cymdeithasol yr oeddech chi'n arfer eu cael drwy'r gwaith, gallech chi hefyd ystyried gwirfoddoli - mae gennym nifer o gyfleoedd cyffrous.
________________________________________


Beth ddylwn i'w wneud os ydw i'n poeni am fy iechyd meddwl?


Gall unigrwydd gael cryn effaith ar ein lles meddyliol. Mae bod yn unig yn aml yn gallu arwain at deimlo'n bryderus, yn isel, yn gymysglyd, neu fod dim egni gennym i wneud yr hyn roedden ni arfer ei fwynhau. Mae'r rhain yn arwyddion nad ydych yn teimlo cystal ag y gallech fod. Yn aml, siarad yw'r ffordd orau o ddechrau teimlo'n well. Gallwch siarad gydag aelod o'r teulu, eich meddyg neu nyrs - pwy bynnag rydych yn teimlo'n gyffyrddus ag ef.


Os ydych chi’n siarad â meddyg neu nyrs, efallai byddant yn gallu awgrymu pethau y gallwch eu gwneud a fydd yn eich helpu. Yn ddealladwy, mae'r syniad o siarad â rhywun yn gallu bod yn frawychus i rai, ac i eraill dyw e ddim yn eu natur nhw i siarad am eu teimladau. Ond ni fydd anwybyddu’r broblem yn helpu, mae'n debygol o wneud popeth yn waeth yn y tymor hir. Efallai mai nawr yw'r amser i gymryd y cam cyntaf hwnnw i helpu eich hun i deimlo'n well.


Am fwy o wybodaeth am ofalu am eich iechyd meddwl, mae gennym ni ganllaw defnyddiol Your Mind Matters - mae'r canllaw hwn yn edrych ar ffyrdd siarad am iechyd meddwl, symptomau cyffredin problemau iechyd meddwl a pha gymorth sydd ar gael.

 

Sut y gall Age Cymru fy helpu i

Mae partneriaid Age Cymru leol ledled Cymru. Gyda'n gilydd, rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau i helpu pobl yn ddiweddarach yn eu bywydau. Os ydych yn teimlo'n unig, cysylltwch â Chyngor Age Cymru am fanylion eich Age Cymru leol a dysgwch mwy am y gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig.

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top