Skip to content
Cyfrannwch

Beth i'w wneud os ydych chi'n unig

Beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n unig, neu’n gofalu am rywun sy'n unig

Pam mae'n bwysig taclo unigrwydd


Ddylai neb deimlo bod neb ganddyn nhw i droi ato, ond rydyn ni hefyd yn gwybod y gall unigrwydd gael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl a chorfforol.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o sylw cyhoeddus wedi cael ei roi i unigrwydd yn ein cymunedau ac mae ein dealltwriaeth o'i effaith wedi newid yn gyfan gwbl. Rydym bellach yn gwybod, er enghraifft, y gall effaith unigrwydd ac unigedd fod mor niweidiol i'n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd, a'i fod yn fwy niweidiol na gordewdra. Mae'n gysylltiedig ag iselder, problemau cwsg, amharu ar ein hiechyd gwybyddol, ymwrthedd fasgwlaidd dwysach, pwysedd gwaed uchel, straen seicolegol a phroblemau iechyd meddwl.

Sut i adnabod unigrwydd mewn rhywun rydych chi'n gofalu amdano


Mae 1.2m o bobl hŷn unig cronig yn y DU, felly mae'n debygol ein bod ni i gyd yn nabod neu'n poeni am rywun sy'n teimlo'n unig. Ond nid yw bob amser yn hawdd gweld yr arwyddion. Gall y cliwiau gynnwys:

- newid sylweddol yn eu trefn ddyddiol (e.e. deffro llawer yn ddiweddarach)
- esgeuluso eu golwg neu hylendid personol
- cwyno am deimlo'n ddiwerth
- ddim yn bwyta'n iawn.

Dylech hefyd ystyried a yw amgylchiadau’r unigolyn yr ydych yn poeni amdano wedi newid. Gallai hynny fod wedi achosi eu hunigrwydd, er enghraifft:

- Colli anwylyn
- Symud bant wrth ffrindiau a theulu
- Colli'r cyswllt cymdeithasol a'r mwynhad roeddent arfer ei fwynhau yn y gweithle
- profi problemau iechyd sy'n ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw fynd allan i wneud y pethau maen nhw'n eu mwynhau.

Gan fod unigrwydd yn brofiad mor bersonol, efallai y byddwch chi'n sylwi ar arwyddion eu bod yn unig cyn yr unigolyn neu cyn iddyn nhw allu siarad amdano. Mae hefyd yn bwysig cofio bod rhywun yn dal i allu teimlo'n unig er bod ffrindiau a theulu o’u cwmpas.

Gwasanaethau all fynd i'r afael ag unigrwydd

Gwasanaeth Ffrind mewn Angen Age Cymru - Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu galwad gyfeillgarwch wythnosol 30 munud i berson hŷn yng Nghymru

Efallai y bydd mudiadau Age Cymru lleol yn ymwybodol o weithgareddau cymdeithasol sy'n cael eu cynnig yn eich ardal chi; neu cysylltwch â'n llinell Gyngor Age Cymru genedlaethol.

Gwirfoddoli gydag Age Cymru - Os ydych chi'n gweld eisiau'r cysylltiadau cymdeithasol yr oeddech yn arfer eu mwynhau yn y gweithle, gallech ystyried gwirfoddoli.

Rhaglenni gweithgaredd corfforol - mae Age Cymru yn rhedeg nifer o'r rhaglenni hyn a all helpu i wella eich iechyd a'ch lles.

Efallai y bydd y rhain hefyd yn ddefnyddiol

Efallai y bydd y rhain hefyd yn ddefnyddiol

- Sut i addasu i fyw ar eich pen eich hun
- Ymdopi â phrofedigaeth
- Hawlio arian
- Canllaw Gwybodaeth 56: Your mind matters – syniadau ac awgrymiadau ar gyfer lles emosiynol (PDF, 2 MB)
- Os ydych chi'n helpu i ofalu am rywun - Canllaw Gwybodaeth 13: Cyngor i ofalwyr (PDF, 3 MB)

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top