Skip to content
Cyfrannwch

Unigrwydd

Unigrwydd

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n unig ar ryw adeg yn ystod eu bywyd. Mae'n brofiad personol tu hwnt a fydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn pasio, diolch byth. Ond i nifer cynyddol o bobl, yn enwedig i bobl hŷn, gall unigrwydd ddiffinio eu bywydau a chael effaith sylweddol ar eu lles.

Beth sy'n achosi unigrwydd?

Yn aml, rydyn ni'n teimlo'n unig pan fyddwn yn teimlo nad oes gennym berthnasau cymdeithasol cryf neu rydyn ni’n anhapus gyda'r cysylltiadau sydd gennym.

Mae yna sawl astudiaeth sydd wedi nodi ystod o ffactorau sy'n gysylltiedig â bod yn unig. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys:

  • rhwydweithiau cymdeithasol (byw ar eich pen eich hunain, rydych yn weddw neu wedi ysgaru, diffyg cyswllt â ffrindiau a theulu a chyfleoedd cyfyngedig i gymryd rhan mewn achlysuron cymdeithasol)
  • iechyd (iechyd gwael, symudedd cyfyngedig, anghenion gofal cymdeithasol neu nam gwybyddol a synhwyraidd)
  • nodweddion unigol (oedran, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, incwm isel, ymddeoliad)
  • nodweddion cymdogaeth (strwythur adeiladau a strydoedd, darparu mwynderau lleol, ffiniau tiriogaethol, enw da ardal, cymdogrwydd, amddifadedd materol ardal breswyl).

Mae unigrwydd yn gysylltiedig ag iselder, problemau cwsg, iechyd gwybyddol, ymwrthedd fasgwlaidd dwysach, pwysedd gwaed uchel, straen seicolegol a phroblemau iechyd meddwl.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top