Skip to content
Cyfrannwch

Gwasanaethau'r GIG yng Nghymru a help gyda chostau iechyd

Gwasanaethau'r GIG yng Nghymru a help gyda chostau iechyd

Rydym yn cynhyrchu Taflen Ffeithiau, y gallwch fynychu isod, am wasanaethau'r GIG, megis gwasanaethau meddygon teulu, atgyfeiriadau at ymgynghorwyr y GIG, gwasanaethau hunanreolaeth y GIG, gwasanaethau penodol y GIG ar gyfer pobl hŷn a rhaglenni sgrinio'r GIG.

Mae gan Galw Iechyd Cymru gyfleuster chwilio lle gallwch ddod o hyd i wasanaethau lleol yn eich ardal chi, fel meddygon teulu, gwasanaethau deintyddol, ysbytai, damweiniau ac achosion brys a fferyllfeydd. Gallwch chwilio drwy ddefnyddio eich cod post neu dref/dinas.


Taflen Ffeithiau Age Cymru 44w: Gwybodaeth am wasanaethau’r GIG ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru (PDF, 624 KB)

Dod o hyd i Wasanaethau’r GIG yn eich ardal chi

Help gyda chostau iechyd y GIG yng Nghymru

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau'r GIG am ddim i bawb, ond efallai y bydd taliadau am driniaeth ddeintyddol, profion golwg, sbectol a lensys cyffwrdd. Mae ein Taflen Ffeithiau yn canolbwyntio ar y sefyllfa ar gyfer pobl yn hŷn na 60 oed ac yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan y GIG sydd am ddim i bawb dros 60 oed; Gwasanaethau'r GIG sydd am ddim yn awtomatig os ydych yn derbyn gwarant credyd pensiwn a Chynllun Incwm Isel y GIG (lle gallwch fod yn gymwys i gael help llawn neu help rannol gyda chostau iechyd penodol os oes gennych incwm cymharol isel, ond heb dderbyn gwarant credyd pensiwn).

Taflenni Ffeithiau 61w: Cymorth gyda chostau iechyd y GIG yng Nghymru (PDF, 848 KB)

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top