Os ydych chi’n gofalu am eich partner, am berthynas, neu am ffrind sy’n sâl neu’n anabl, rydych chi’n ofalwr, hyd yn oed os nad ydych chi’n ystyried eich hun fel gofalwr. Mae nifer o wahanol ffyrdd o ofalu am rywun. Efallai eich bod chi’n:
• sicrhau eich bod chi ar gael 24 awr y dydd er mwyn darparu gofal.
• trefnu apwyntiadau ysbyty ar gyfer rhywun arall.
• galw heibio bob dydd er mwyn cadw cwmni i rywun, neu eu helpu i baratoi bwyd.
• ymweld â pherthynas sy’n byw yn bell i ffwrdd unwaith bob mis er mwyn cadw llygad arnyn nhw.
• symud i fyw gyda rhywun er mwyn eu helpu nhw i wella ar ôl llawdriniaeth ddifrifol.
Os ydych chi’n gofalu am rywun, cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol er mwyn trefnu asesiad gofalwr.
Yn ogystal ag asesu anghenion yr unigolyn sy’n derbyn gofal, dylai adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol gynnal asesiad gofalwyr er mwyn deall pa anghenion sydd gennych chi, a pa fath o help fyddai’n ddefnyddiol i chi fel gofalwr.
Mae gennych chi hawl i asesiad gofalwr os ydych chi’n darparu gofal sylweddol cyson i rywun. Rydych chi hefyd yn medru gofyn am asesiad gofalwr heb fod angen asesu anghenion yr unigolyn sy’n derbyn gofal.
Dyma’r mathau o help gallwch chi dderbyn:
• gofal seibiant
• gwybodaeth am grwpiau cefnogaeth ar gyfer gofalwyr lleol
• help gyda gofalu
• offer a fydd yn eich helpu chi i ddarparu gofal.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllaw:
Canllaw 41w: Asesiadau gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn ag anghenion gofal yng Nghymru
Mae’r canllaw hwn hefyd yn llawn gwybodaeth am y broses asesu.