Skip to content
Cyfrannwch

Sut i ddod o hyd i grefftwr da

Mae'n bwysig dod o hyd i grefftwr sydd â'r sgiliau cywir i weithio ar eich tŷ. Mae'n bwysig eich bod chi'n medru ymddiried yn eich crefftwr. Bydd hyn yn arbed arian, amser a rhwystredigaeth i chi.

Byddwch yn wyliadwrus os ddaw masnachwyr i guro ar ddrws eich tŷ. Efallai byddant yn galw'n annisgwyl er mwyn chwilio am waith. Peidiwch â theimlo o dan bwysau i roi gwaith iddyn nhw. Os ydych chi'n amau eu stori, dywedwch 'Na' a chau eich drws yn syth. Os ydych chi'n teimlo bod angen, ffoniwch yr Heddlu.

Gallwch ddod o hyd i grefftwyr dibynadwy drwy wneud y canlynol:

  • Gofynnwch i deulu a ffrindiau am fanylion crefftwr dibynadwy. Yn aml, mae gofyn i deulu a ffrindiau yn ffordd hawdd a diogel o ddod o hyd i grefftwr fydd yn darparu gwasanaeth o safon uchel.
  • Gallwch ddefnyddio TrustMark i ddod o hyd i grefftwr dibynadwy. Mae TradeMark yn gynllun sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y Llywodraeth. Mae TradeMark yn cynnwys gwybodaeth am bob math o waith crefft sydd yn ymwneud a'r cartref. Mae TrustMark yn eich galluogi i ddefnyddio eich cod post er mwyn dod o hyd i fusnesau sydd ag enw da, a chrefftwyr dibynadwy. Defnyddiwch TradeMark i ddod o hyd i grefftwr lleol.

Defnyddiwch yr offeryn TrustMark i ddod o hyd i grefftwr lleol


Beth ddylwn i ei wneud cyn i mi logi crefftwr?

Ar ôl i chi greu rhestr fer o grefftwyr rydych chi'n eu hystyried, cysylltwch â nhw er mwyn cael gwybod y canlynol:

  • gwiriwch eu prisiau – chwiliwch am o leiaf 3 pris gwahanol er mwyn eu cymharu.  Holwch beth yn union sydd yn cael ei gynnwys yn y pris, er enghraifft costau llafur a deunyddiau.  Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod yn union beth rydych chi'n ei brynu. 
  • gwiriwch eu manylion a'u trwydded.  Er enghraifft, mae'n rhaid i beirianwyr boeleri gofrestru gyda Gas Safe.
  • darllenwch eu cyfeiriadau – ewch i siarad â chwsmeriaid blaenorol y crefftwr er mwyn holi am safon am eu gwaith a safon eu gwasanaeth.  
  • pa mor hir mae'r unigolyn wedi bod yn gweithio ar ei grefft.
  • dewch o hyd i'w manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad eu swyddfa a rhif ffôn eu llinell dir.




Sut alla i osgoi problemau gyda masnachwyr?

Yn anffodus, weithiau nid yw ein cynlluniau ar gyfer ein cartref yn cael eu gwireddu.
Mae gennym awgrymiadau a fydd yn lleihau problemau i chi, a chael gwared ar gostau ychwanegol diangen.

Paratowch grynodeb clir ar gyfer eich crefftwr

Eglurwch eich cynllun yn glir, gyda digon o fanylder. Peidiwch â phoeni am y swyddi bach iawn. Mae angen i'ch crynodeb egluro pa waith sydd angen ei wneud yn fanwl. Mae angen i chi ystyried y canlynol:

  • y deunyddiau bydd eich crefftwr yn eu defnyddio. Ystyriwch beth fydd angen i chi ddarparu ar gyfer y crefftwr.
  • holwch a fydd isgontractwyr (er enghraifft plymwr) yn cael eu cynnwys yn y pris.
  • holwch a fydd gwaith glanhau a chael gwared ar ddeunydd gwastraff yn cael ei gynnwys yn y pris.
Cytundeb ysgrifenedig


Gwnewch yn siŵr bod gennych gytundeb ysgrifenedig cyfreithiol llawn ar gyfer swyddi canolig a swyddi mawr. Bydd cytundeb ysgrifenedig yn eich amddiffyn chi os fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Sicrhewch eich bod chi wedi cytuno ar y taliadau i gyd, yn cynnwys taliad terfynol, cyn i'r gwaith ddechrau.

Talu ymlaen llaw


Peidiwch â thalu ymlaen llaw ar unrhyw gyfrif. Talwch am waith sydd wedi ei gwblhau yn unig. Yr unig bryd mae angen i chi dalu cyn diwedd y gwaith yw pan mae angen prynu deunyddiau ymlaen llaw. Os oes angen deunyddiau ymlaen llaw, mae'n rhesymol i'r crefftwr ofyn i chi dalu canran deg o'r costau wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

Rheoliadau adeiladu


Efallai bydd angen tystysgrif cydymffurfiaeth rheoliadau adeiladu arnoch ar gyfer mathau penodol o waith (er enghraifft gwaith trydanol, plymwaith, gwaith nwy ac adeiladu ffenestri. Bydd angen i chi gysylltu gyda'ch awdurdod lleol er mwyn cael y dystysgrif. Mae'r dystysgrif yn profi bod y gwaith adeiladu'n ddiogel, a'i fod wedi ei gwblhau i safon uchel. Gall eich crefftwr ddarparu’r dystysgrif os ydyn nhw'n aelod o'r Cynllun Personau Cymwys. Mae'r cynllun yn rhan o raglen achredu'r Llywodraeth.

Ewch i Gov.uk am fwy o wybodaeth ynglŷn â phryd mae angen cymeradwyaeth adeiladu


Beth ydw i'n ei wneud os oes gen i broblemau gyda masnachwr?

Gallwch wneud cwyn am wasanaeth gwael neu safon gwaith gwael os ydy eich crefftwr yn rhan o gynllun cofrestru a gymeradwywyd gan y Llywodraeth. Ar ôl i chi wneud cwyn bydd Safonau Masnach yn medru ymchwilio gwaith y crefftwr.

Trafodwch y broblem gyda Chyngor ar Bopeth. Byddant yn medru rhannu eich gwybodaeth gyda Safonau Masnach. Efallai bydd Safonau Masnach yn cysylltu gyda chi i gael mwy o wybodaeth.

Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth i gael mwy o wybodaeth am sut i wneud adroddiad am grefftwr at sylw Safonau Masnach.

 

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 16 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top