Skip to content
Cyfrannwch

Cartref & gofal

P'un a ydych chi eisiau aros yn eich cartref eich hun; yn chwilio am help ar gyfer perthynas hŷn; yn pwyso a mesur eich opsiynau ynghylch tai neu eisiau holi ynghylch talu am ofal, gallwn ni helpu.

Pynciau

  • Cartrefi gofal

    Mae ein tudalennau cyngor yn lle da i ddechrau os ydych chi'n credu efallai y bydd angen i chi fynd i gartref gofal. Mae gennym wybodaeth ynglŷn â sut i ddod o hyd i gartref gofal; sut i ofyn am gymorth gan eich awdurdod lleol a sut mae'r gweithdrefnau codi tâl yn gweithio ar gyfer gofal mewn cartref gofal.
  • Help yn y cartref

    Gwybodaeth am sut i ddod o hyd i help yn y cartref, yn cynnwys talu am ofal a chefnogaeth.
  • Dewisiadau ynghylch tai

    Gwybodaeth am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â thai, gan gynnwys rhentu (tai cymdeithasol neu fel tenant preifat); cartrefi'r parc; delio gyda digartrefedd a thai gwarchod.
  • Addasu eich cartref

    Dysgwch am yr addasiadau syml a allai eich galluogi i aros yn eich cartref eich hun am gyfnod hirach.
  • Gwybodaeth i ofalwyr (os ydych chi'n gofalu am berthynas neu ffrind)

    Os ydych yn gofalu am bartner, perthynas neu ffrind sy'n anabl neu'n sâl oherwydd iechyd corfforol neu feddyliol, rydych chi'n ofalwr, hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl am eich hun fel un. Dysgwch am y cymorth emosiynol, ymarferol ac ariannol sydd ar gael i chi.
  • Diogelu pobl hŷn rhag camdriniaeth a/neu esgeulustod

    Mae gennym ddalen ffeithiau manwl sy'n cwmpasu beth i'w wneud os ydych chi'n berson hŷn sy'n cael ei gam-drin neu ei hesgeuluso, neu a allai fod mewn perygl o hyn; neu rydych chi'n pryderu ar ran person hŷn ei fod yn cael ei gam-drin. Nod y wybodaeth yn y ddalen ffeithiau yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r mater o gam-drin; rhoi manylion am ddulliau diogelu – gan gynnwys deddfwriaeth berthnasol, canllawiau statudol a pholisïau – ynghyd â chamau ymarferol y gellir eu cymryd i atal camdriniaeth. Mae hefyd yn amlinellu cymorth a chefnogaeth a allai fod ar gael i adrodd am gam-drin.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top