Sgamiau a thwyll
Gyda chymorth ein gwybodaeth a'n cyngor amrywiol, byddwn yn eich helpu i weld ac osgoi'r sgamiau diweddaraf sy'n targedu eich arian.
- Peidiwch byth â darparu data personol fel eich enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni - gall sgamwyr ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddwyn eich hunaniaeth.
- Peidiwch â chaniatáu i chi eich hun gael eich rhoi dan bwysau i roi arian a pheidio byth â gwneud rhoddion drwy arian parod neu gerdyn rhodd, nac anfon arian drwy asiantau trosglwyddo.
- Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich targedu gan sgam, siaradwch â'ch banc yn syth a rhowch wybod am unrhyw dwyll i Action Fraud drwy ffonio 0300 123 2040.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98.