Skip to content
Cyfrannwch

Pensiwn y Wladwriaeth Newydd

Pensiwn y Wladwriaeth Newydd 

Beth yw Pensiwn y Wladwriaeth newydd?  

Faint o Bensiwn y Wladwriaeth fydda i'n ei dderbyn?  

A allaf hawlio fy Mhensiwn a pharhau i weithio?  

Sut mae cyfanswm fy mhensiwn yn cael ei benderfynu?  

Sut mae hawlio fy Mhensiwn?  

Beth yw Pensiwn y Wladwriaeth newydd?  

Mae Pensiwn y Wladwriaeth newydd yn daliad rheolaidd gan y Llywodraeth y gall y rhan fwyaf o bobl ei hawlio yn hwyrach mewn bywyd.  

Gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth newydd os ydych wedi cyfrannu at Yswiriant Gwladol am o leiaf 10 mlynedd ac os ydych yn:  

  • ddyn a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951 
  • ddynes a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1953  

Os cawsoch eich geni cyn y dyddiadau hyn fe fyddwch yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol.  

Faint o Bensiwn y Wladwriaeth fydda i'n ei dderbyn? 

Y swm llawn y gallwch ei dderbyn gan y Pensiwn Gwladol newydd fydd £221.20 yr wythnos (yn 2024/25) ond mae hyn yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. 

Os oes gennych:  

  • 35 mlynedd neu fwy o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, fe gewch y swm cyfan
  • rhwng 10 a 34 mlynedd o gyfraniadau, byddwch yn derbyn cyfran o'r pensiwn
  • llai na 10 mlynedd o gyfraniadau, dydych chi ddim yn gymwys ar gyfer derbyn y Pensiwn Gwladol newydd.  

Gallwch wirio faint o Bensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei dderbyn ar wefan GOV.UK neu, os ydych yn 50 oed neu'n hŷn, gallwch ofyn am ddatganiad papur os hoffech.  

A allaf hawlio fy Mhensiwn Gwladol a pharhau i weithio?  

Gallwch. Fodd bynnag, dyma rai pethau y dylech ystyried: 

Ni fydd unrhyw arian rydych chi'n ei ennill yn effeithio ar eich Pensiwn, ond gall effeithio ar eich hawl i dderbyn budd-daliadau eraill megis Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu gymorth gan y Cynllun Gostyngiad Treth Gyngor.  

Byddwch yn ymwybodol bod Pensiwn y Wladwriaeth yn drethadwy, felly pan gaiff ei ychwanegu at eich enillion efallai y byddwch mewn band treth uwch.  

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol mwyach, hyd yn oed os byddwch chi'n parhau i weithio.  

Sut mae cyfanswm fy mhensiwn yn cael ei benderfynu?  

Os ydych eisoes wedi adeiladu cyfraniadau Yswiriant Gwladol o dan y system cyn 2016, byddwch yn derbyn 'swm cychwyn'.  

Byddwch yn derbyn un o’r isod - yr opsiwn a fydd yn rhoi’r swm uchaf i chi: 

  • Naill ai'r swm y byddech wedi ei dderbyn o dan y system cyn 2016, gan gynnwys pensiwn sylfaenol ac ychwanegol 
  • Neu'r swm y byddech yn ei dderbyn pe bai Pensiwn y Wladwriaeth newydd wedi bod ar waith ar ddechrau eich bywyd gwaith.  

Os ydy eich 'swm cychwyn' yn fwy na swm cyfan Bensiwn y Wladwriaeth newydd (gweler yr adran uchod), bydd unrhyw swm dros y lefel honno'n cael ei gadw a'i dalu gyda’r swm cyfan pan fyddwch chi'n dechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth newydd. 

Os yw eich swm cychwynnol yn llai na swm cyfan Bensiwn y Wladwriaeth newydd efallai y byddwch yn gallu ychwanegu at eich Pensiwn newydd drwy gyfraniadau a chredydau rhwng 6 Ebrill 2016 a phan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. 

Beth sy'n digwydd petawn i mewn cynllun sydd wedi ei gontractio?  

O ran eich 'swm cychwynnol' ar gyfer y Pensiwn Gwladol, bydd didyniad yn cael ei wneud os ydych eisoes wedi cael cynllun pensiwn personol, neu os yw eich gweithle wedi contractio eich pensiwn – er enghraifft, os ydych wedi bod yn aelod o bensiwn y sector cyhoeddus.  

Gwneir y didyniad oherwydd fel arfer byddwch wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar raddfa is gyda phensiwn sydd wedi ei gontractio.   

Gaf i ddefnyddio cyfraniadau fy mhartner? 

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cyfraniadau chi.  Yn gyffredinol ni fyddwch yn gallu hawlio gan ddefnyddio cyfraniadau eich priod neu bartner sifil ar ôl ymddeol neu os ydych yn weddw neu wedi ysgaru.  

Fodd bynnag, os ydych chi'n weddw efallai y gallwch etifeddu rhan o Bensiwn Gwladol ychwanegol eich partner. 

Os ydych chi'n fenyw a dalodd y gyfradd 'cyfraniadau menyw briod', efallai y gallwch ddefnyddio'r cyfraniadau hyn tuag at Bensiwn y Wladwriaeth.  

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn am fwy o wybodaeth.  

Sut mae hawlio fy Mhensiwn Gwladol?  

Ni fyddwch yn derbyn eich Pensiwn Gwladol yn awtomatig pan fyddwch yn cyrraedd oedran pensiwn. Mae angen i chi wneud cais. Dyma beth sydd angen i chi ei wneud:  

Cam un: Dylech dderbyn llythyr a llyfryn gan y Gwasanaeth Pensiwn tua phedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydych chi wedi derbyn llythyr, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 7898.  

Cam dau: Gallwch hawlio eich pensiwn ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post. Bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn cyflwyno cais ac efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch dyddiad geni.  

Ar-lein  

Gallwch hawlio eich Pensiwn Gwladol ar-lein unrhyw bryd gan ei fod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae'r gwasanaeth yn ddiogel ac mae desg gymorth i’w gael drwy ffonio 0345 604 3349 (ffôn testun: 0345 604 0523).  Maent yno i’ch helpu drwy'r broses os cewch unrhyw anhawster. 

Dros y ffôn 

I wneud cais dros y ffôn ffoniwch linell hawlio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 7898 (ffôn testun: 0800 731 7339). Mae llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)  

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98.

 

Last updated: Ebr 05 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top