Skip to content
Cyfrannwch

Pensiwn y Wladwriaeth

Pensiwn y Wladwriaeth    

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd a wneir i chi gan y llywodraeth unwaith y byddwch yn cyrraedd oedran sydd yn golygu eich bod yn ddigon hŷn i fedru ei dderbyn.   

Mae dau fath o Bensiwn y Wladwriaeth.  Mae’r ddau yn ymwneud gyda’ch cofnod cyfrannu ar gyfer eich Yswiriant Gwladol.  

Pa fathau o Bensiwn y Wladwriaeth sydd i’w cael? 

Pa Bensiwn y Wladwriaeth fyddwn i'n ei hawlio?  

Pam bod dau Bensiwn y Wladwriaeth? 

Pryd fydda i'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth?  

Mwy o wybodaeth  

Pa fathau o Bensiwn y Wladwriaeth sydd i’w cael? 

Yn 2016, daeth Pensiwn y Wladwriaeth Newydd i rym, gan ddisodli'r Pensiwn Gwladol Sylfaenol a oedd eisoes yn bodoli. Bydd pa bensiwn sy'n berthnasol i chi yn dibynnu os wnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn i’r Pensiwn y Wladwriaeth Newydd ddod i rym - gweler isod. 

Pensiwn y Wladwriaeth newydd 

Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol 

Pa Bensiwn y Wladwriaeth fyddwn i'n ei hawlio?  

  Defnyddiwch ein siart i ddarganfod pa bensiwn y dylech ei hawlio:  

Rhyw  

Dyddiad geni  

Pensiwn  

Benyw  

Cyn 6 Ebrill 1953  

Pensiwn Sylfaenol  

Benyw  

Ar ôl 5 Ebrill 1953  

Pensiwn Newydd  

Gwryw  

Cyn 6 Ebrill 1951  

Pensiwn Sylfaenol  

Gwryw  

Ar ôl 5 Ebrill 1951  

Pensiwn Newydd  

Pam bod dau Bensiwn y Wladwriaeth?  

Cyflwynwyd Pensiwn y Wladwriaeth Newydd yn 2016 i gymryd lle Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol. Er mwyn atal dryswch, mae'r rhai sydd eisoes yn gynnwys ar gyfer derbyn Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol yn parhau i'w dderbyn.   

Dim ond hawlwyr newydd sydd yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth Newydd. Mewn amser bydd y Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol yn cael ei ddileu'n llwyr.   

Pryd fydda i'n cyrraedd oedran derbyn Pensiwn y Wladwriaeth?  

O fis Ebrill 2021, mae angen i bawb bod yn 66 oed er mwyn derbyn  Pensiwn y Wladwriaeth (yn y dyfodol mae disgwyl i’r rhif i fynd yn uwch, er na fydd hyn yn dechrau tan fis Mai 2026). 

Gwiriwch bryd y byddwch yn derbyn eich Pensiwn ar GOV.UK gan ddefnyddio cyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth y llywodraeth

Ni fydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei dalu i chi yn awtomatig. Ychydig fisoedd cyn i chi gyrraedd yr oedran penodol, byddwch yn derbyn llythyr yn son am eich opsiynau.  Bydd ganddoch ddewis i hawlio neu i ohirio er mwyn derbyn mwy o arian yn y dyfodol. 

Gwybodaeth ychwanegol 

Darllenwch ein Canllaw Gwybodaeth 53: Pensiwn y Wladwriaeth  

Darllenwch ein Taflenni Ffeithiau manylach 19: Pensiwn y Wladwriaeth 

Ar hyn o bryd mae'r dogfennau a restrir uchod nad oes ganddynt hypergyswllt ar gael yn Saesneg yn unig – gellir gweld copïau ar fersiwn iaith Saesneg ein gwefan. Cysylltwch â ni os ydych yn dymuno trafod hyn neu os hoffech chi fersiwn Gymraeg.

Gwneud cais am eich Pensiwn ar-lein  

 Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98. 

 

 

 

 

 

Last updated: Rhag 16 2022

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top