Skip to content
Cyfrannwch

Taliad Tanwydd Gaeaf

Mae Taliad Tanwydd Gaeaf yn daliad heb brawf modd gan y Llywodraeth i helpu gyda chostau gwresogi. Bydd y rhan fwyaf o aelwydydd pensiynwyr yn gallu ei dderbyn. Pan fydd y tywydd yn arbennig o oer am gyfnod parhaus, efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer.

Mi fyddai’n ddefnyddiol petaech yn ymwybodol o’r cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes - taliad blynyddol i helpu gyda chostau ynni yn ystod y gaeaf. Fe'i cynlluniwyd er mwyn gwneud pethau ychydig yn haws ar gyfer pobl sy'n byw ar incwm isel neu bensiwn.

Efallai y byddwch hefyd yn dymuno gweld ein gwybodaeth am gymorth gyda chostau byw.


Faint o Daliad Tanwydd Gaeaf y gallwn ei dderbyn ?

Y taliad yw:

  • £200 os ydych o dan 80 oed
  • £300 os ydych dros 80 oed

Fodd bynnag, fel arfer byddwch yn derbyn llai os ydych yn byw gyda phobl eraill sydd hefyd yn gymwys.

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf os ydych yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:

  • cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1957 (i fod yn gymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2023 i Fawrth 2024 – mae'r cymhwysedd dyddiad geni yn newid bob blwyddyn ariannol).
  • roeddech yn byw yn y DU drwy gydol wythnos gymhwyso (fel arfer yn ystod mis Medi).

Fel arfer, byddwch yn derbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf yn awtomatig os ydych yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal arall, fel Credyd Pensiwn (ond nid Budd-dal Tai, Credyd Cynhwysol neu Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor).

Os ydych yn gymwys, ond dydych chi ddim yn cael eich talu'n awtomatig, bydd angen i chi wneud hawliad.

Os mai hon yw'r flwyddyn gyntaf yr ydych chi’n hawlio, neu os nad ydych erioed wedi hawlio o'r blaen, ffoniwch linell gymorth y Taliad Tanwydd Gaeaf ar 0800 731 0160. Bydd angen eich bod chi’n gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol a manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu. 

Dim ond unwaith y bydd angen i chi ei hawlio. Ar ôl hynny, dylech dderbyn taliad yn awtomatig bob blwyddyn os nad yw'ch amgylchiadau'n newid. Mae'r rhan fwyaf o daliadau yn cael eu gwneud rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

Mae gan ein taflen ffeithiau, Help gyda chostau gwresogi yng Nghymru, ragor o wybodaeth am y Taliad Tanwydd Gaeaf.


Ydw i'n gymwys a sut ydw i'n hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf?

Mae'r Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn daliad untro o £150 i leihau biliau cwsmeriaid cymwys dros fisoedd y gaeaf.

Nid yw gostyngiad cartref cynnes yn effeithio ar eich hawl i dderbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf neu Daliad Tywydd Oer.

Ni fydd yr arian yn cael ei dalu i chi yn uniongyrchol - bydd yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif trydan fel credyd. Mae hyn fel arfer yn digwydd rhwng mis Hydref ac Ebrill (efallai bydd y gostyngiad yn medru cael ei dynnu i ffwrdd o’ch bil nwy os ydych yn gwsmer tanwydd deuol - h.y. mae gennych gynllun cyfunol ar gyfer nwy a thrydan gyda'r un cyflenwr).

Os ydych chi'n defnyddio mesurydd rhagdalu, mae'n debygol y byddwch chi'n cael taleb atodol.

Ydw i'n gymwys ar gyfer y Gostyngiad Cartrefi Cynnes?

I fod yn gymwys, mae'n rhaid bod cyfrif gennych chi neu'ch partner gyda chyflenwr trydan sy'n cymryd rhan, a rhaid i un ohonoch hawlio un o'r canlynol:

  • y gyfran Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn; neu
  • 'budd-dal cymwys' gwahanol (os oes gennych chi gostau ynni uchel).

Mae'r budd-daliadau cymwys yn cynnwys cyfran Credyd Cynilion Credyd Pensiwn a Budd-dal Tai. Os ydych yn hawlio un o'r rhain, bydd y llywodraeth yn asesu eich costau ynni yn seiliedig ar fath, oedran a maint eich eiddo. Os ydych chi'n credu bod yr asesiad yn anghywir, gallwch ei herio.

Os ydych chi'n poeni am gostau ynni cynyddol, gwiriwch eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Gall hawlio budd-daliadau penodol eich gwneud yn gymwys i dderbyn Gostyngiad Cartrefi Cynnes.

Yn ystod gaeaf 2023-24, bydd y rhan fwyaf o aelwydydd cymwys yn derbyn y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn awtomatig.

Mae hyn yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, pan oedd yn rhaid i chi hawlio'r arian gan eich cyflenwr os nad oeddech yn hawlio cyfran Credyd Gwarant Credyd Pensiwn.

I benderfynu os ydych yn cael y gostyngiad, bydd y llywodraeth yn edrych ar eich amgylchiadau ar ddyddiad penodol, sef y 'dyddiad cymhwyso'. Mae hyn fel arfer yn digwydd ym mis Gorffennaf.

Beth os ydw i'n newid cyflenwyr ynni?

Os nad yw eich cyflenwr trydan yn rhan o'r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gallech ystyried dewis cyflenwr sy'n cymryd rhan. Ond efallai na fydd gwneud hyn yn arbed arian i chi, yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gynnig i chi. Yn yr un modd, efallai na fydd y cyflenwr newydd yn cymryd rhan yn y cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, felly mae'n bwysig ystyried hynny os ydych chi'n derbyn y gostyngiad ar hyn o bryd.

Chwiliwch am y cyngor diduedd diweddaraf yn gyntaf – er enghraifft, ffoniwch Linell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.

Os hoffech chi ddarganfod pa gyflenwyr sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, mae rhestr o gyflenwyr sy'n cymryd rhan yma.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Rhag 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top