Skip to content
Cyfrannwch

Lwfans Gofalwr

Gall gofalu fod yn werth chweil ond gall hefyd fod yn flinedig ac achosi straen, ac os ydych yn rhoi'r gorau i weithio er mwyn bod yn ofalwr gall hefyd gael effaith ar eich cyllid. Hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl am eich hun fel gofalwr, gallai Lwfans Gofalwr eich helpu.


Beth yw Lwfans Gofalwr?

Lwfans Gofalwr yw'r prif fudd-dal sydd yn helpu gofalwyr. Efallai y byddwch chi'n dal yn medru ei hawlio, hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl amdanoch chi'ch hun fel gofalwr.

Does dim rhaid i chi fod yn gysylltiedig â'r unigolyn rydych chi'n gofalu amdano neu'n byw gyda nhw i hawlio Lwfans Gofalwr. Mae'n arian ychwanegol bob wythnos i chi ei ddefnyddio fel rydych chi eisiau neu angen.

Byddwch hefyd yn derbyn credydau Yswiriant Gwladol bob wythnos tuag at eich Pensiwn Gwladol os ydych o dan oedran pensiwn.


Faint allwn i'w dderbyn?

Mae Lwfans Gofalwr werth £81.90 yr wythnos (ar gyfer Ebrill 2024-25) ac yn cael ei dalu bob pedair wythnos fel arfer.


Ydw i'n gymwys ar gyfer derbyn Lwfans Gofalwr?

Os ydych yn meddwl na fyddwch yn gymwys i hawlio Lwfans Gofalwr oherwydd bod gennych chi rywfaint o arian wedi ei arbed, peidiwch â phoeni. Ni fydd eich cynilion a'ch cofnod Yswiriant Gwladol yn gwneud gwahaniaeth i'ch cais.

Gallech fod yn gymwys os ydych:

  • Yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am berson anabl (does dim rhaid i chi fyw gyda nhw neu fod yn gysylltiedig â nhw)
  • Yn gofalu am rywun sy'n derbyn y gyfradd gofal canol neu gyfradd uwch o Lwfans Byw i'r Anabl, naill ai cyfradd y Taliad Annibyniaeth Bersonol o’r gydran byw bob dydd, neu unrhyw gyfradd o Lwfans Gweini
  • Ddim yn ennill mwy na £151 yr wythnos (ar ôl didyniadau)
  • Ddim mewn addysg llawn amser

Os yw Eich Pensiwn Gwladol yn fwy na £81.90 yr wythnos, ni allwch dderbyn Lwfans Gofalwr. Os byddwch yn bodloni'r meini prawf uchod fodd bynnag mae'n bosibl y byddwch dal eisiau gwneud cais. Os yw eich Pensiwn Gwladol yn rhy uchel i dderbyn Lwfans Gofalwr, mae gennych hawl sylfaenol sy'n golygu y dylid eich ystyried yn ofalwr ar gyfer budd-daliadau eraill.

I rai pobl, gall yr hawl sylfaenol hwn ganiatáu iddynt fynychu symiau uwch o fudd-daliadau sydd yn gofyn am brawf modd yn cynnwys Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai.

Os ydych chi'n hawlio Credyd Cynhwysol, mae'n bosib y gallwch chi dderbyn swm ychwanegol oherwydd eich rôl heb wneud cais am Lwfans Gofalwr. Gelwir hyn yn elfen gofalwr.

Mwy o wybodaeth am gredyd cynhwysol

Mae gan ein canllaw gwybodaeth 'Lwfans Gofalwr' wybodaeth bellach am ymgeisio am Lwfans Gofalwr. Mae Taflenni Ffeithiau 55 yn cynnwys gwybodaeth llawer mwy manwl os oes angen hyn. Isod mae rhai canllawiau gwybodaeth eraill a allai fod o gymorth i chi os ydych yn ofalwr.


Beth ddylwn i'w wneud nesaf?

Gallwch wneud cais ar-lein am Lwfans Gofalwr drwy wefan GOV.UK.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ebr 05 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top