Skip to content
Cyfrannwch

Tasglu Cenedlaethol Atal Cwympiadau Cymru

Ers amser maith, mae Age Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ar draws yr holl sectorau a chenhedloedd er mwyn wynebu’r mater o gwympo ymhlith pobl hŷn.

Mae Tasglu Cenedlaethol Atal Cwympiadau Cymru’n cael ei gadeirio gan Age Cymru, gyda Care & Repair Cymru gweithredu fel Is-gadeirydd. Mae’r Tasglu’n grŵp cydweithredol amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol. Mae’n cynnwys cynrychiolaeth o’r saith bwrdd iechyd, llywodraeth genedlaethol a lleol, a sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector.

Mae effaith cwympo ar yr unigolyn yn anferth, yn ogystal â’r effaith ar eu teulu, eu ffrindiau, eu cymdogion, a’r gwasanaeth iechyd. Rydyn ni’n cyd-weithio er mwyn newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am heneiddio a chwympo, a herio’r gred fod cwympo’n rhan anochel o heneiddio. Rydyn ni’n ymdrechu i helpu pobl hŷn i fyw bywydau gweithgar ac annibynnol heb ofni cwympo.

Os hoffech chi ymuno â’r Tasglu cysylltwch ag enquiries@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555

Cyfle am hyfforddiant: Atal Cwympiadau: Dull amlddisgyblaethol a gweithio fel tîm – dydd Gwener 10 Tachwedd 2023 a 31 Ionawr 2024

Ymunwch â ni ar ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023 am ddigwyddiad hyfforddi cynhwysfawr atal cwympiadau gan y Tasglu Cenedlaethol Atal Cwympiadau.

Bydd y digwyddiad yn darparu’r deall a’r strategaethau diweddaraf i leihau peryglon cwympiadau ymhlith pobl hŷn, cyfle i ddysgu wrth arbenigwyr yn y maes a rhwydweithio gyda phobl broffesiynol eraill.

Anelir y digwyddiad at bobl sydd â phrofiad o weithio gydag oedolion hŷn sydd mewn peryg o gwympo, a gwahoddir pobl o bob math o gefndiroedd proffesiynol.

Cynhelir y digwyddiad yn yr MPEC (Canolfan Addysg Aml-Broffesiynol) Ysbyty Tywysoges Cymru, Ffordd Coity, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1RQ.

Bydd ein rhaglen yn trafod pynciau yn y gymuned er enghraifft asesiadau atal, rhaglenni ymarfer corff, rheolaeth meddyginiaeth, addasiadau diogelwch y tŷ, cynyddiadau technoleg, rheolaeth traed a phwysigrwydd asesiadau synhwyraidd.

Dyma’r dyddiad cyntaf o ddau ddiwrnod hyfforddi. Mae’r ail ddiwrnod ar 31 Ionawr 2024 yn yr un lleoliad. Mae angen mynychu’r ddau ddiwrnod er mwyn cwblhau’r hyfforddiant.

Peidiwch â cholli’r cyfle i wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth am atal cwympiadau.

Cofrestrwch nawr i neilltuo eich lle

 

Last updated: Ion 18 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top