Skip to content
Cyfrannwch

Pontio’r cenedlaethau er mwyn atal cwympiadau

Pecyn adnoddau addysg ar gyfer ymwybyddiaeth cwympiadau.

Gall bobl ifanc chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl hŷn i leihau’r perygl o gwympo. Mae’r pecyn adnoddau hwn yn helpu plant i feddwl am gwympo, yr effaith gall hyn gael ar bobl, sut y gallant gefnogi ffrindiau, perthnasau ac anwyliaid i leihau’r risg o gwympo, a meddwl am sut gallant hwy heneiddio’n iach gan osgoi cwympo yn y dyfodol.

Mae’r sesiwn hon yn awr o hyd, ac yn cychwyn gyda thrafodaeth fel dosbarth a ‘golygfa ddigwyddiad’ rhyngweithiol gan gynnwys ymarfer ymchwilio amgylchiadau cwymp. Os oes modd, bydd ail ran y sesiwn yn digwydd mewn ystafell wahanol neu yn neuadd yr ysgol. Mae yna opsiynau ychwanegol ar gyfer cynnal gweithgareddau atodol neu ddysgu pellach yn cynnwys ‘golygfa ddigwyddiad’ 360̊ o gwymp gyda chyfle i’r plant ymchwilio ar eu hun.

Anelir y pecyn hwn at blant rhwng 7 ac 11 oed, ond mae’n bosib ei addasu’n hawdd ar gyfer plant yn iau a phlant yn hŷn.

Datblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer ysgolion gan Dasglu Atal Cwympiadau Cymru ar y cyd gydag Age Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Age Connect Wales, Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Front cover of falls awareness education resource pack for key stage 2

Pecyn adnoddau addysg ymwybyddiaeth o gwympiadau - Cyfnod allweddol 2

Adnoddau ychwanegol i gefnogi ac ymestyn y sesiwn

‘Cwympo - Eich corff a chi’

Poster Cadw’n ddiogel i helpu pobl hŷn i leihau eu risg o gwympo

Os hoffech chi wybodaeth ychwanegol am yr adnodd addysg cysylltwch ag enquiries@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555.

'Golygfa ddigwyddiad' 360̊ rhyngweithiol o gwymp

Gan ddefnyddio’r olygfa hyn ar-lein, gall blant nodi peryglon posib gan ddysgu sut y gallant wneud eu cartrefi’n fwy diogel

Ar gyfer rhai sydd heb benset VR:

Ar gyfer rhai sydd â phenset VR:

 

Last updated: Medi 18 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top