Skip to content
Cyfrannwch

Ar gyfer Y Foment - crynodeb o ganfyddiadau gofalwyr hŷn

Cafodd arolwg Gofalwyr ei lansio ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2020. Fe ofynnodd arolwg y Gofalwyr Cudd farn a mewnbwn gofalwyr di-dâl hŷn ledled Cymru nad oeddent yn derbyn cymorth ffurfiol.

Mae'r arolwg yn rhan o brosiect partneriaeth genedlaethol rhwng Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, a ariennir gan Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Nod y project yw datblygu modelau gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn nodi a diwallu anghenion gofalwyr hŷn a gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia yn well.

Gan dderbyn dros 300 o ymatebion, mae'r arolwg yn rhoi cipolwg ar fywyd i ofalwyr di-dâl hŷn. Soniodd gofalwyr am eu hanghenion cymorth, eu gallu i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau, a'u profiadau o ddydd i ddydd wrth ddarparu gofal.

Fe wnaeth yr arolwg ganfod bod nifer o ofalwyr yn ymwneud ag ymdopi yn unig, yn poeni am y dyfodol ond yn rheoli am y foment.

  • Dywedodd 51% o'r ymatebwyr nad ydyn nhw wedi ceisio cael cymorth chwaith oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod beth sydd ar gael, yn amharod i ofyn am gymorth allanol i'r naill neu'r llall o'r person maen nhw'n gofalu amdano, neu ddim yn cael yr amser. Dywedodd eraill eu bod yn teimlo bod y gofal maen nhw'n ei ddarparu'n rhan naturiol o fywyd teuluol
  • Ar gyfer y 48% a ddywedodd eu bod angen cefnogaeth, mynediad at gyngor a gwybodaeth, cymorth gartref, seibiant a chefnogaeth emosiynol ymhlith eu ceisiadau pennaf
  • Roedd cyfran uchel o'r ymatebwyr eisiau gwybodaeth am gynllunio wrth gefn/brys, manteisio ar fudd-daliadau, a chymorth iechyd/lles
  • Roedd 73% o'r ymatebwyr am dderbyn gwybodaeth a chyngor ar-lein, gyda 43% drwy eu meddyg teulu
  • Dywedodd 68% o'r ymatebwyr eu bod yn ymdopi'n ariannol am y tro, ond bod ganddynt bryderon am y dyfodol, tra bod nifer uchel o ymatebwyr yr arolwg wedi dweud eu bod yn teimlo'n fwy blinedig, dan straen ac yn dioddef o gwsg sy'n cael eu tarfu dros y 12 mis diwethaf.

Yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau'r arolwg, rydym yn awyddus i gysylltu â mwy o ofalwyr a chefnogi sefydliadau i ddyfnhau dealltwriaeth o lawer o'r materion a godwyd. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy neu gymryd rhan, cysylltwch â'n Swyddog Prosiect Gofalwyr, Catrin Edwards

Am y Tro

Am y Tro- crynodeb o'r canfyddiadau

Lawrlwythwch ein canfyddiadau isod

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top