Skip to content
Cyfrannwch

Fforwm Ymgynghorol

Sefydlwyd Fforwm Ymgynghorol Age Cymru yn 2011, wedi ymgynghoriad helaeth ar draws Cymru.

Ein gweledigaeth yw cymdeithas sy'n cynnig y profiad gorau i bawb yng Nghymru yn hwyrach mewn bywyd. Mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a'u galluogi i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r Fforwm Ymgynghorol yn chwarae rhan allweddol yn Age Cymru ac yn helpu i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ar bob lefel ein sefydliad. 

Y Fforwm Ymgynghorol 

  • darparu arweiniad mewn perthynas â gweithgareddau allweddol Age Cymru; 
  • cyfrannu at ddigwyddiadau a gweithgareddau Age Cymru gan gynnwys cynadleddau, datblygu polisi, cyhoeddiadau, ac ati; 
  • cynnig adborth am gyfeiriad strategol cyffredinol a gweithgareddau gweithredol Age Cymru. 

Aelodaeth 

Mae gan y Fforwm Ymgynghorol aelodaeth eang ac amrywiol i sicrhau bod ystod o safbwyntiau a phrofiad rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth ar gael i'r elusen. Mae'r aelodaeth yn sicrhau cyfranogiad sefydliadau, grwpiau a phobl hŷn unigol 50+ oed o bob cwr o Gymru ac mae'n cynnwys pobl sy'n gallu gwneud cyfraniadau o safbwyntiau cenedlaethol, rhanbarthol, lleol ac unigol. Yn ogystal â'r mannau a ddyrannwyd ar gyfer grwpiau cenedlaethol neu ranbarthol penodol, cafodd nifer o aelodau unigol eu recriwtio drwy apwyntiad cyhoeddus. Mae gan y Fforwm Ymgynghorol uchafswm o 40 o aelodau. 

Mae cadeirydd etholedig y Fforwm Ymgynghorol hefyd yn gweithredu fel ymddiriedolwr ar Fwrdd Age Cymru. 

Gweithgareddau 

Mae'r Fforwm Ymgynghorol yn cyfarfod 2 - 3 gwaith y flwyddyn mewn lleoliadau ledled Cymru ac ar-lein. Yn ogystal â Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr, mae un o Ymddiriedolwyr Bwrdd Age Cymru yn mynychu'r Fforwm Ymgynghorol i weithredu fel cyswllt ychwanegol. Ym mhob cyfarfod mae'r agenda yn cynnwys un neu ddwy eitem bolisi fawr i'w trafod, a ddewiswyd gan Age Cymru. 

Ymunwch â'r Fforwm Ymgynghorol 

Hoffech chi ein helpu i greu Cymru sy'n gefnogol o oedran? Rydym yn recriwtio aelodau newydd 50+ oed sy'n byw ledled Cymru ac sy’n barod i rannu eu profiadau a chyfrannu at bolisïau Age Cymru. Gallwch gymryd rhan wyneb yn wyneb ac ar-lein. Os oes gennych chi ddiddordeb, byddem wrth ein bodd pe baech yn cysylltu â ni. I gael gwybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Harriet Horn drwy ffonio 029 2043 1533 neu drwy e-bostio harriet.horn@agecymru.org.uk.  

Gallwch hefyd lawrlwytho pecyn recriwtio gan ddefnyddio’r dolenni isod. 

Pecyn recriwtio Fforwm Ymgynghorol

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top