Skip to content
Cyfrannwch

Pwysigrwydd Eiriolaeth

Pwysigrwydd Eiriolaeth 9

Pwysigrwydd Eiriolaeth 9 yw'r adroddiad diweddaraf mewn cyfres o arolygon sydd yn cael eu cyhoeddi bob dwy flynedd. Cynhaliwyd yr adroddiadau gan Age Cymru. Mae'n rhoi cipolwg ar ddarpariaeth eiriolaeth yng Nghymru ar gyfer oedolion, gyda phwyslais arbennig ar bobl hŷn.

Mae'r cyfanswm o bobl sy'n cael eu cefnogi, eiriolwyr taledig a gwasanaethau a ariennir i ddarparu eiriolaeth ledled Cymru i gyd wedi gostwng ers i'r arolwg diwethaf gael ei gyhoeddi yn 2022. Bu cynnydd bychan yn nifer y gwasanaethau eiriolaeth yn benodol ar gyfer pobl hŷn a chynnydd sylweddol yn nifer yr eiriolwyr gwirfoddol sy'n gweithio mewn amrywiaeth o wasanaethau eiriolaeth ledled Cymru.

Mae Age Cymru yn falch o nodi'r cynnydd yn nifer y gwasanaethau eiriolaeth arbenigol ar gyfer pobl hŷn, wrth bryderu am y nifer is o sefydliadau ac eiriolwyr cyflogedig sy'n cefnogi pobl hŷn yn benodol. Mae'r gostyngiadau cyffredinol mewn cymorth ehangach y gallai pobl hŷn gael mynediad atynt hefyd yn peri pryder, gan arwain at lai o gyfleoedd i bobl hŷn gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal, ac eiriolaeth yn y gymuned.

Pwysigrwydd Eiriolaeth 9

 

Last updated: Medi 06 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top